Wrth imi lunio’r sylwadau hyn roedd papurau Sul Llundain yn llawn o hanesion am femo a ysgrifennwyd gan lysgennad y Deyrnas Gyfunol yn Washington, Kim Darroch, a oedd wedi cyrraedd dwylo’r Mail on Sunday. Er mawr syndod i neb o gwbl, ymddengys nad oes gan Mr Darroch lawer o feddwl o Donald Trump a’i fod yn ystyried ei weinyddiaeth yn un ddi-drefn a di-glem. Tybiaeth y llysgennad yw y gall gyrfa wleidyddol Mr Trump ddiweddu mewn sgandal.
O ystyried popeth, go brin fod Mr Barroch yn gwneud dim ond dweud yr hyn sy’n gyfan gwbl amlwg i bawb. Yr eironi mawr oedd bod yr un papurau wrthi’n ymbaratoi ar gyfer ethol Boris Johnson yn arweinydd y Blaid Geidwadol ac felly, mae’n fwy na thebyg, yn Brif Weinidog hefyd. Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod Johnson wedi profi’n ddi-drefn ac yn ddi-glem fel Ysgrifennydd Tramor, a’r ffaith fod ganddo record hir o raffu celwyddau. A’r tebygrwydd y bydd ei yrfa yntau hefyd yn diweddu mewn sgandal.
Ydi hi’n syndod, felly, ei bod mor anodd cymryd gwleidyddiaeth Prydain o ddifrif?