Tybed faint ohonoch fydd yn codi ael mewn tipyn o syndod wrth ddarllen fy ngosodiad taw Ralph Vaughan Williams yw’r ‘Cyfansoddwr Cymreig gorau nas cawsom’? Ond wrth edrych ar hanes cerddoriaeth ym Mhrydain dros y ganrif ddiwethaf ymddengys yr honiad yn un digon rhesymol i mi – ac efallai y dylem wneud llawer mwy o’i achau Cymreig ac ymfalchïo felly yn ei athrylith digamsyniol.
Ychydig dros ganrif yn ôl, ar 14 Mehefin 1921, perfformiwyd am y tro cyntaf un o’i ddarnau mwyaf poblogaidd hyd heddiw, un sy’n dod i frig siart Classic FM yn flynyddol ac yn ben dewis ar Desert Island Discs. Disgrifiodd y cyfansoddwr The Lark Ascending fel ‘rhamant’ i ffidil a cherddorfa. Mae’n seiliedig ar gerdd o’r un teitl gan George Meredith, bardd a chanddo dras Cymreig a Gwyddelig. Ond beth yw cyfrinach ei apêl a sut yn hollol mae’r cyfansoddwr yn hawlio sylw’r gwrandawr am chwarter awr mor llesmeiriol a hudolus?