Ganed Mike yn Scunthorpe, Swydd Lincoln, yn 1949 a’i fagu ym mhentref Hibaldstow. Astudiodd archaeoleg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd (1968–1971) cyn dilyn MA mewn addysg. Erbyn 1972 roedd yn perfformio gyda chwmnïau theatr arbrofol, gan gynnwys RAT Theatre, cwmni y dylanwadwyd arno gan theatr gorfforol Jerzy Grotowski o Wlad Pwyl. Cyd-sefydlodd Cardiff Laboratory Theatre yn 1973, yng Nghanolfan Chapter. Yn gynnar yn ei yrfa roedd iddo enw yn Ewrop fel artist arloesol ac fe’i gwahoddwyd i ymuno â sawl cwmni o fri. Ond bwrw gwreiddiau yng Nghymru a wnaeth, a dysgodd Gymraeg.
Sefydlodd Mike gwmni theatr Brith Gof ar y cyd â Lis Hughes Jones yn Aberystwyth yn 1981. Am bron i ddegawd, ymrodd i ddatblygu theatr arloesol a wasanaethai gymunedau Cymraeg, gan berfformio mewn neuaddau pentref, capeli a ffermydd, ac yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.