Hydref 2008 / Rhifyn 549

Cymru Fach

Gerait Criddle

Wedi bwrlwm y 1990au, ychydig iawn o ffilmiau Cymraeg a gynhyrchwyd ers troad y ganrif. Ond diolch i fuddsoddiad newydd gan S4C, mae nifer o ffilmiau newydd ar fin cael eu dangos - yn y sinemau, yn ogystal a'r teledu. Yn eu plith, mae addasiad o ddrama ddadleuol Wiliam Owen Roberts.

Geraint Criddle
Mwy

Hawl i'r Gymraeg?

Gwion Lewis a Dyfrig Jones

Eleni, cyhoeddwyd cyfrol gyntaf Gwion Lewis, Hawl i'r Gymraeg. Yma, mae'n trafod cynnwys y gyfrol gyda golygydd Barn, Dyfrig Jones.

Gwion Lewis, Dyfrig Jones
Mwy

Rhwng Cwsg ac effro

Beca Brown

Wel, mae hi’n fis ers imi gamu mewn i ’mywyd newydd fel Mam I Ddau O Blant Oed Ysgol. Hynny ydi, rhyddid i ailgydio mewn bywyd oedolaidd, di-lego rhwng 9 y bore a 3 y prynhawn, neu uffern o hiraeth ac ansicrwydd cyfeiriad am dalp rhy hir o’r diwrnod – mae’n dibynnu sut ’dach chi’n sbio ar bethau.

Beca Brown
Mwy

Hawl i'r Gymraeg

Dafydd Trystan

Cyfrol Feistrolgar

Yng nghanol bwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol fe lansiwyd cyfrol Gwion Lewis ‘Hawl i’r Gymraeg’ ym mhabell Cymdeithas yr Iaith. Yno mi wnaed yr alwad yn glir iawn dros yr Hawl i ddefnyddio’r Gymraeg. Byddai ymateb sinigol efallai yn awgrymu nad yw’r fath alwad o du Cymdeithas yr Iaith yn newyddion mawr - onid dyma fu cri’r Gymdeithas dros ddegawdau lawer? Ond byddai gosod cyfrol Gwion Lewis ochr yn ochr â galwadau mynych ymgyrchol (ac ar adegau pur rhethregol) y Gymdeithas, am hawliau ieithyddol, yn gwneud cam mawr, a’r hyn sydd yn gyfrol feistrolgar a gafaelgar, sy’n cynnig fframwaith cyfreithiol a deallusol er mwyn grymuso’r ddadl dros hawliau ieithyddol.

Dafydd Trystan
Mwy

Golygyddol - Tir Glas Cymru

Dyfrig Jones

 Mae Llywodraeth y Cynulliad wrthi yn ymgynghori ar newidiadau i reolau cynllunio Cymru yn gweithio. Gallai mabwysiadu'r newidiadau sydd yn cael eu hawgrymu arwain at roi ychydig mwy o chwarae teg i gymunedau gwledig Cymru.

Dyfrig Jones
Mwy

Americanwr oddi cartref

Chris Cope

Annwyl Rhodri Morgan,

Rydw i'n ysgrifennu atoch oherwydd chi yw fy aelod y Cynulliad. Neu, rydw i'n meddwl mai chi yw fy aelod. Rhoddais fy nghôd post yn y teclyn "Dod o hyd i'm Aelod" hwnnw ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru a ges i eich enw, ynghyd â phedwar enw eraill: Andrew RT Davies, Christopher Franks, David Melding, a Leanne Wood. A yw hyn yn gywir? Mae gennyf bum aelod y cynulliad? Pwy yw'r bobl hyn? Beth ydych chi i gyd yn gwneud?

Chris Cope
Mwy

Saunders, Gwynfor a Gadaffi

Andrew Misell

Cenedlaetholwyr Cymreig, ac Israel

Andrew Misell
Mwy