Hydref 2011

Barn Roy Thomas a Dafydd ab Iago am lanast yr ewro… Bethan Kilfoil a phenderfyniad Sinn Féin i enwebu Martin McGuinness ar gyfer y ras arlywyddol… sgwrs gyda Rhian Staples, enillydd y Fedal Ddrama ym mhrifwyl Wrecsam… ymatebion i 'Llwyth'… hoff stafell Gwyn Llewelyn… barn Sioned Williams am 'Gwaith/Cartref'… pam y mae Llanddewi Brefi yn fwy na thestun jôc yn 'Little Britain'… Beca Brown a’r mamau sy’n cael bai am bopeth… marwolaeth car Chris Cope… a llawer mwy.

 

Hanes Rhyw Athro

Gareth Miles

Yn sgil aduniad ysgol ym Môn yn ddiweddar, bu’r awdur yn hel atgofion am ei orffennol pell fel athro.

 

Rhoddais yr argraff, yn fy llith ddiwethaf yn Barn (Gorffennaf/Awst), na wnes i ddechrau byw tan imi gyrraedd Wrecsam yn 1964 ond yn gynharach eleni bu achlysur a’m hatgoffodd o brofiadau diddorol a phobol ddifyr a berthynai i gyfnod blaenorol. Aduniad disgyblion ac athrawon a fynychai Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, ddechrau’r chwedegau oedd hwnnw. Dro ar ôl tro, ymddangosai rhith bochgoch, direidus y tu ôl i wyneb yr oedolyn a wenai arnaf. ‘Ydach chi’n cofio lluchio sialc ata’i?’ holodd gwraig ganol-oed-ifanc. ‘A finna’n ’i luchio fo’n ôl atach chi?’ ‘Mi ’naethoch chi’n iawn, Greta!’

Gareth Miles
Mwy

Cymru, Lloegr a ....Phontypridd

Richard Wyn Jones

Disgrifiwyd AS Pontypridd fel y praffaf o’r to newydd o Aelodau Llafur Cymreig yn San Steffan. Ond – yn anghredadwy – mae o’n cynnig yr un atebion cyfansoddiadol yn union â llywodraeth Cameron a Clegg.

Richard Wyn Jones
Mwy

Trychineb Gleision

Vaughan Hughes

Siân James, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, oedd y person cyntaf i mi ei glywed yn ei ddweud o. Pan ddaeth y newydd fod pedwar o lowyr yn gaeth dan ddaear ym mhwll glo Gleision fe gyfaddefodd Siân fod hynny’n sioc enbyd iddi. Roedd hi wedi ei hen gysuro ei hun mai perthyn i orffennol Cymru yr oedd digwyddiadau o’r fath. Nid i’r dyddiau hyn. Nid i’r unfed ganrif ar hugain. Ac fe glywais i sawl un arall yn dweud yr un peth, cyn – ac yn sicr, ar ôl – y cyhoeddiad torcalonnus terfynol bod pedwar yn rhagor o Gymry wedi’n hatgoffa o’r newydd beth yw gwir bris y glo.

 

Vaughan Hughes
Mwy

Camp a Rhemp: Eric Gill a Chymuned Hynod Capel Y Ffin

Andrew Misell

Ers sawl canrif mae Saeson wedi dod i Gymru er lles yr enaid a’r awen, o Joseph Turner i Led Zeppelin. Ac fe apeliodd y Gymru wledig anhygyrch at un o gerflunwyr mawr yr ugeinfed ganrif. Bu o gymorth iddo hefyd guddio rhai o’i arferion ffieiddiaf rhag y cyhoedd.

 

Andrew Misell
Mwy

Siglad i'r Drefn

Elin Llwyd Morgan

Ynghyd ag adeg troi’r clociau ymlaen, yr adeg o’r flwyddyn y bydda i’n edrych ymlaen ati leia’ ydi dechrau Medi pan fydd Joel yn dychwelyd i’r ysgol a minnau’n dychwelyd i’r swyddfa ar ôl gwyliau’r haf.

Elin Llwyd Morgan
Mwy