‘Addysg Addysg, Cwestiynau Cwestiynau’ meddai’r geiriau ar y clawr, ac yn wir mae colofnwyr a chyfranwyr y rhifyn hwn yn mynd i’r afael â llu o gwestiynau heriol a difyr mewn sawl maes. Yn sgil helynt canlyniadau Saesneg TGAU, holi beth fydd dyfodol CBAC y mae’r cyn-brifathro uwchradd Dafydd Fôn Williams. Cwestiynau am deyrngarwch cenedlaethol sêr y meysydd chwarae yn Iwerddon sy’n cael sylw Bethan Kilfoil. Beth yw’r gwir am y rhyfela a’r tywallt gwaed yn Syria? Dyna gwestiwn anodd Hefin Jones. Mae Beca Brown yn gofyn sawl cwestiwn am y ‘diwylliant fform ffôr’ lle mae merched yn cael eu barnu yn ôl eu golwg. Cynnig yn fwy na chwestiwn sydd gan Gareth Miles, sydd am ddirwyo’r cyfryngis Cymraeg a phawb arall sy’n gorddefnyddio’r ansoddair ‘anhygoel’. Gwell bodloni yma, felly, ar ‘rhyfeddol o amrywiol’ fel disgrifiad o gynnwys Barn y mis hwn. Prynwch gopi i weld drosoch eich hun.
Andrew Misell
I’r genhedlaeth a gododd yn afresymol o gynnar ar 20 Gorffennaf 1969 i weld y darllediad byw cyntaf o’r lleuad, daeth rhywbeth go arbennig i ben ar ddiwedd yr haf a aeth heibio. Roedd y dyn cyntaf i gamu ar y lleuad, Neil Armstrong, wedi cymryd ei gam olaf ar y ddaear. Drwy hynny dyna roi atalnod llawn terfynol ar y Ras i’r Gofod, ras a fu’n rhan mor fawr o’r ugeinfed ganrif.