Mae cryn dipyn o sôn am farddoniaeth rhwng dau glawr y rhifyn diweddaraf. Rhyfeddu at yr ymateb yn Iwerddon i farwolaeth Seamus Heaney wna Bethan Kilfoil, tra bo Gareth Miles yn cymharu bardd o Ffrancwr a bardd o Gymro, a Guto Dafydd yn croesawu tair cyfrol newydd o farddoniaeth sy'n 'ganol oed' yn yr ystyr orau. Barddoniaeth sêr roc, o Jarman i'r Manic Street Preachers, yng Ngwyl Rhif 6 Portmeirion, wnaeth argraff ar Owain Gruffudd, a Derec Llwyd Morgan yn cofio awen o fath gwahanol eto sef dawn ysbrydoledig y diweddar Cliff Morgan wrth chwarae rygbi ac wrth sylwebu arno. Ond os cewch ddigon ar feirdd, beth am bandas? Dylanwad y cyfryw greaduriaid ar wleidyddiaeth Ewrop yw pwnc annisgwyl Dafydd ab Iago. Ac adar sy'n mynd â bryd Beca Brown – tybed ai aderyn y bore ynteu aderyn y nos ydych chi? Beth bynnag yw'r ateb, cewch ddigon i'ch cadw'n effro, ac i borthi eich meddwl, ddydd a nos yn Barn y mis hwn.
Bethan Kilfoil
FFARWEL CENEDL I’W BARDD CENEDLAETHOL
Ai dim ond yn Iwerddon y byddai prif raglen newyddion y genedl yn cael ei neilltuo bron yn llwyr i goffáu bardd? Ond nid bardd na dyn cyffredin oedd y gwr o Swydd Derry.