Richard Wyn Jones
Adroddiad llygad dyst i ddadrithiad nifer sylweddol o Albanwyr â’r wladwriaeth Brydeinig a’i sefydliadau – yn enwedig y BBC. Ac onid oes sail pur gadarn i’r ofnau a fynegodd yr awdur droeon yn y tudalennau hyn am rwystredigaethau hollol ddilys Lloegr?
‘Do you think that the BBC is playing fair by both sides in our referendum?’ Cwestiwn gofalus y llanc cringoch oedd yn gweini paned ar fore’r ail ar bymtheg o Fedi wrth i mi deithio ar y trên o Lundain i Gaeredin. Yr oeddwn eisoes wedi egluro wrtho fy mod yn teithio i’r gogledd er mwyn cyfrannu i raglenni BBC Cymru ar y bleidlais. Ac roedd crybwyll ‘y BBC’ yn ddigon i sicrhau ei fod yn edrych yn ôl dros ei ysgwydd o’r peiriant coffi er mwyn cymryd golwg fanylach arnaf.
Roedd cyd-destun ei ymholiad yn gwbl amlwg: ymddygiad rhyfedd golygydd gwleidyddol y BBC, Nick Robinson, yn ystod ac ar ôl cynhadledd i’r wasg ryngwladol yn Glasgow chwe diwrnod ynghynt. Ymddygiad a oedd wedi sbarduno protest fawr y tu allan i swyddfeydd moethus y Gorfforaeth yn yr un ddinas ar y Sul cyn y bleidlais.
Wedi inni ddechrau sgwrsio o ddifrif daeth yn amlwg fod y gwr yn gefnogwr brwd i achos annibyniaeth - ‘I’m mad for independence’. Yn wir, roedd yn perthyn i frid o bleidwyr annibyniaeth sydd wedi dod yn gyfarwydd iawn i unrhyw un a dreuliodd beth amser yn yr Alban dros yr wythnosau diwethaf. Dyn ifanc dosbarth gweithiol oedd o, un gwybodus a huawdl tu hwnt ynglyn â’r hyn a oedd yn y fantol yn y refferendwm. Gallai drafod Fformiwla Barnett a goblygiadau’r Transatlantic Trade and Investment Partnership (TTIP) ar gyfer y gwasanaeth iechyd gyda’r gorau. Yr oedd hefyd yn ddrwgdybus a chwbl ddirmygus o rôl y sefydliad Prydeinig yn ystod yr Ymgyrch. Gyda’r BBC a’r Blaid Lafur yn ennyn llid arbennig. Efallai oherwydd ei fod ar un adeg wedi disgwyl gwell ganddyn nhw…
Yn ddiweddarach yr un diwrnod gwelais arwydd pellach o’r argyfwng hygrededd sydd bellach yn wynebu un o sefydliadau pwysicaf y wladwriaeth Brydeinig yng ngolwg cyfran go sylweddol o bobl yr Alban.
Wrth grwydro ‘hen dref’ Caeredin fin nos fe darawais ar rali derfynol y Radical Independence Coalition, sef y glymblaid adain chwith a wnaeth gymaint i ennyn diddordeb yn y refferendwm yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig gorllewin Ewrop. Pinacl y cyfarfod oedd araith gwbl wefreiddiol gan yr awdur Lesley Riddoch. Roedd yr araith yn clodfori’r ymdrechion byrfyfyr, creadigol, cwbl wirfoddol hynny a oedd wedi nodweddu’r Ymgyrch Ie. Y corau, y sioeau teithiol o feirdd a llenorion, yr orsaf radio, y cyfarfod stryd, y gwefannau lu. Ac yn y blaen, ac yn y blaen. Y rhain, meddai hi, oedd wedi llwyddo i godi cefnogaeth yr ymgyrch ymhell y tu hwnt i gefnogaeth graidd yr SNP. A hynny i’r pwynt lle’r oedd yn fygythiad gwirioneddol i barhad y Deyrnas Gyfunol.
Ac fel petai trwy ryw ymyrraeth ddwyfol, wrth i’r gymeradwyaeth fyddarol ar ddiwedd ei haraith ddechrau distewi, dyma glywed canu o’r stryd a’r gynulleidfa sylweddol yn y neuadd yn edrych ar ei gilydd mewn syndod. Beth yn y byd.. Erbyn gweld, roedd gorymdaith yn pasio’r drws. Gorymdaith a oedd i bob golwg hefyd yn un fyrfyfyr ac yn cynnwys tua mil a hanner - roedd hi’n anodd iawn amcangyfrif yr union nifer yn y tywyllwch - o gefnogwyr ‘Ie’. Nid oedd dim amdani ond ymuno yn yr orymdaith er blasu mwy o’r awyrgylch drydanol a nodweddai Gaeredin y noson honno.
Roedd yn orymdaith amryliw, a dweud y lleiaf. Gan gynnwys Catalwniaid, Basgiaid, brodorion Corsica a, siwr o fod, rhai Cymry’n ogystal. Ond Sgotiaid ifanc oedd y rhan fwyaf o ddigon ohonyn nhw, a’u bwriad oedd ymgynnull y tu allan i Senedd yr Alban ar waelod y Royal Mile.
Wrth i ni gerdded lawr y stryd honno roedd sawl slogan yn cael eu gweiddi: ‘Hope not fear’, ‘Scotland says Yes’ a ‘Tories, Tories, Tories: out, out, out’. Ond wedi inni gyrraedd y llain o dir rhwng yn Senedd a hen Balas Holyrood dyma gân yn dechrau chwyddo a oedd yn amlwg yn rhyngu bodd y dorf:
Where’s your cameras,
where’s your cameras,
where’s your cameras BBC?
Gyda’r darlledwr gwladwriaethol wedi anwybyddu (mwy na heb) y ralïau sylweddol iawn a gynhaliwyd gan yr Ymgyrch Ie mewn dinasoedd a threfi ledled yr Alban ar y dydd Sadwrn blaenorol, yn gam neu’n gymwys, roedd y dorf yn disgwyl yr un driniaeth ar noswyl y refferendwm.