Yn ddall i bawb a phopeth y tu allan i swigen fyfïol San Steffan a’r Ddinas, dyw ein sylwebyddion ddim eto wedi sylwi bod sŵn newid ym mrig y morwydd. Ond mae sioc yn eu haros...
Fel y gwyddom, cymuned gymharol fechan, ac, yn wir, losgachol sy’n ffurfio’r dosbarth gwleidyddol Prydeinig. Mae’n gymuned sy’n hanu o’r un cefndir cymdeithasol cul...
Hydref 2015 / Rhifyn 633

Fel Hyn y Cwymp y Cedyrn

Yr IRA – Yma o hyd?
Llofruddiaeth dyn o’r enw Kevin McGuigan tu allan i ddrws ffrynt ei gartref ym Melffast ar 12 Awst oedd y digwyddiad a arweiniodd at y bygythiad diweddar i barhad y broses heddwch yn Stormont.
Mae argyfwng diweddaraf y dalaith yn un sydd wedi bod yn barod i ffrwydro ers tro. Ceir dwy elfen iddo: presenoldeb a gweithgaredd parhaol grwpiau para-filwrol; a methiannau gwleidyddol y pleidiau yn Stormont...

Cofio T. Llew – Cyfarwydd cyfareddol yr ysgol
Dyma atgofion un a fu’n cydweithio ag ef yn un o ysgolion cynradd Sir Aberteifi.
Mis Medi 1070 oedd hi pan gyrhaeddais Ysgol Coed-y-bryn yn athrawes ifanc betrusgar. Fi a dyrnaid o blant bach yn cychwyn ar yr un diwrnod. Ysgol dau athro oedd Coed-y-bryn ar y pryd...

Porth Madryn, Calais a Kos
Wrth ystyried sut i ymateb i argyfwng y ffoaduriaid, dylem gofio hanes ymfudwyr cymharach a oedd hefyd yn dianc o’u hadfyd i chwilio am well byd, meddai ein colofnydd.
Mae hi’n ganrif a hanner ers i griw bychan adael Cymru, hwylio’r Iwerydd ar y Mimosa a sefydlu’r Wlafda ym Mhatagonia. Caed sawl digwyddiad i gofio’r dewrion hyn, a’r caledi mawr a ddioddefasant...

Collwyr gwael
Un o’r rhinweddau a ddylai nodweddu pob chwaraewr yw’r gallu i golli’n dda. Nid bod neb eisiau colli... Ond gŵyr y rhan fwyaf o chwaraewyr mai’n achlysurol iawn y cyrhaeddant y brig. Gan hynny, i osgoi siomiant a chwerwedd, y maent ryw sut yn gorfod cyflyru eu hunain i fod yn ail neu’n drydydd neu hyd yn oed yn ganfed graslon.

Darlledu Cymreig a Chymraeg – beth yw’r ateb?
Yn ei ddarlith yn Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau eleni roedd yr awdur yn trafod dyfodol darlledu yng Nghymru mewn cyfnod ansicr iawn. Yn yr erthygl isod mae’n cynnig y syniad o dreth newydd i ariannu gwasanaeth darlledudatganoledig.
Pan benderfynodd Llywodraeth Prydain mai £7 miliwn yn unig fyddai ei chyfraniad blynyddol at gostau’r Sianel yn y dyfodol, cymaint oedd yr annhegwch, roedd yn anodd gwybod lle i ddechrau...