Fforest law’r Amazon yw un o brif ecosystemau’r ddaear. Er bod cynnau tanau yn ddigwyddiad blynyddol yn nhymor sych Brasil mae’r cynnydd yn nifer y tanau yno – ac yn wir, dros y ffin ym Molifia hefyd – wedi bod yn syfrdanol eleni ac wedi ennyn ymateb chwyrn gan y gymuned ryngwladol wrth i’r actifydd egnïol, Greta Thunberg, ddatgan ‘bod ein cartref ar dân’.
Coedwig yr Amazon yw ‘ysgyfaint y ddaear’ ac mae ganddi swyddogaeth allweddol yn nyfodol y blaned gan ei bod yn ymddwyn fel storfa anferthol o garbon. Hebddi, byddai’n anodd iawn inni aros o fewn gofynion Cytundeb Paris a chadw cynnydd tymheredd y ddaear o dan +1.5°C – y lefel y cytunwyd arno fel un sy’n osgoi gyrru’r ddaear i stad ansefydlog.
Yn ogystal, mae gan y fforest law swyddogaeth allweddol arall wrth ein helpu i wrthsefyll effeithiau posib newid hinsawdd. Mewn gwledydd sydd wedi profi datgoedwigo ar raddfa enfawr gwelwn newidiadau syfrdanol i’w meicro-hinsawdd, trawsnewidiadau i’w tirwedd wrth i gyfraddau glaw leihau, ac effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.