Pob lwc i’r ymchwiliad annibynnol sy’n gobeithio cyhoeddi adroddiad ddiwedd Hydref ar lanast y canlyniadau Lefel A a fu’n gysgod dros filoedd o ddarpar fyfyrwyr yn ystod yr haf. Fydd tyrchu am atebion ddim yn hawdd. Mae’r algorithm sydd wrth wraidd yr helynt yn gyfrinach fasnachol – ‘Trade Secret’ – a dyfynnu union eiriau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Dyna ydi ymateb CBAC i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Fe ddywedon nhw wrtha i y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn niweidio buddiannau busnes y corff arholi.
Ac wrth ymateb i’r un cais fe ddatgelodd y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, nad oedden nhw’n gwybod manylion yr algorithm, ac yn benodol y côd mathemategol a roddwyd ar waith, er mai nhw oedd wedi cymeradwyo’r model safoni a ddefnyddiwyd gan y Cyd-bwyllgor. Mater i CBAC yn unig oedd hyn, meddai CC…