Roedd tad Charli yn gyd-berchennog siop ddillad dynion Britton & Hopkins yn Nhreganna, Caerdydd, ond roedd yn well gan Charli gyfeirio at ardal ei febyd fel ‘Canton’, ac roedd yn un o’r bobol brin hynny oedd yn siarad Cymraeg a Saesneg gydag acen Caerdydd. (Yn wir, haera rhai mai Charli a ddyfeisiodd acen ysgolion Cymraeg Caerdydd!). Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf, ac ymlaen i fod ymhlith disgyblion cynharaf Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Magwraeth ac addysg nodweddiadol o ddosbarth canol Cymraeg Caerdydd, efallai, ond doedd dim byd confensiynol yn perthyn i Charli. Roedd yn gymeriad ar ei ben ei hun, a heb newid fawr ddim, gallech feddwl, ers dros hanner can mlynedd. Roedd yn fythol ifanc, yn fythol ddireidus, yn fythol greadigol, ac yn llawn syniadau am y dyfodol. A dyna pam y daeth y newydd am farw’r drymiwr a’r dylunydd fel taranfollt i’w ffrindiau a’i gydnabod.