Hydref 2022 / Rhifyn 717

Coron  Yr Alban a’r Frenhines adeg agoriad swyddogol sesiwn Senedd Yr Alban, Gorffennaf 2011.
Darllen am ddim

Prif weinidog a brenin newydd ond yr un dadleuon

Fy mwriad y mis hwn oedd ysgrifennu am effaith dyrchafiad Liz Truss ar draul Boris Johnson ar wleidyddiaeth yr Alban. Ond bellach mae’n ymddangos y bydd marwolaeth y Frenhines Elizabeth a dechrau teyrnasiad y Brenin Charles yn cael mwy o effaith ar bethau.

Yn ystod yr ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol roedd agwedd Truss yr un fath yn union ag agwedd ei rhagflaenydd: yn wrthwynebus i annibyniaeth, yn wrthwynebus i refferendwm, yn wrthwynebus i hyd yn oed drafod y pwnc na rhoi unrhyw ystyriaeth iddo. Os na fydd ymchwydd yn y gefnogaeth i Truss ymhlith etholwyr yr Alban – a does dim tystiolaeth o hynny hyd yma – dyw newid prif weinidog yn San Steffan yn newid dim ar dirwedd gwleidyddol y wlad.

Ond gallai marwolaeth y Frenhines newid hynny. Yn gyntaf, bydd llawer o ymgyrchwyr dros refferendwm annibyniaeth arall yn cofio sut y dylanwadodd marwolaeth y Dywysoges Diana ar refferendwm datganoli 1997: ataliwyd yr ymgyrchu er i’r refferendwm ei hun fynd rhagddo. Credir bod y sefyllfa wedi peri i’r farn gyhoeddus glosio tuag at y status quo gan gau peth ar y bwlch rhwng pleidleiswyr Ie a Na, ond nid digon i’w gau yn llwyr. Gyda’r farn am annibyniaeth yn llawer mwy rhanedig na’r farn 25 mlynedd yn ôl am ddatganoli, a’r coroni’n debygol o ddigwydd yn yr haf, dim ond rhyw ddeufis o bosib cyn refferendwm, mae posibilrwydd cryf fod pleidlais dros annibyniaeth yn llai tebygol bellach nag yr oedd ar ddechrau mis Medi.

Ond os edrychwn ni ar agwedd yr Alban tuag at y Deyrnas Unedig, mae gwahaniaeth rhwng y farn am y ‘Deyrnas’ a’r farn am yr ‘Unedig’. Fel y gellid disgwyl, mae barn gref o fewn yr SNP o blaid gweriniaeth. Ond polisi swyddogol y blaid yw – a dyna hefyd oedd y polisi adeg refferendwm annibyniaeth 2014 – y byddai Alban annibynnol yn arddel y frenhiniaeth ac yn ymaelodi â’r Gymanwlad.

Bellach, prif ladmeryddion gweriniaeth Albanaidd annibynnol yw’r Gwyrddion.

Will Patterson
Melville Richards
Llên

Arwyr Angof: Melville Richards

Bu llawer o sôn yn ddiweddar am y rhan sylweddol a chwaraewyd gan Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae delwedd y datryswr côd Alan Turing yn ymddangos ar y papur £50 newydd, bu Benedict Cumberbatch yn serennu yn y ffilm The Imitation Game (2014) yn seiliedig ar fywyd Turing, ac ym mis Ebrill eleni rhyddhawyd ffilm John Madden, Operation Mincemeat, sy’n ail-ddweud stori’r ‘Major William Martin’ ffuglennol, corff y dihiryn anffodus o Gymro â’r enw annhebygol Glyndwr Michael, ‘y dyn na fu erioed’, a ddefnyddiwyd yn hanes twyll strategol Prydain i gamarwain awdurdodau’r Almaen ynglŷn â bwriad y Cynghreiriaid i ymosod ar Sisili yn 1942.

Ond beth am y dyrnaid o Gymry go iawn a gyfrannodd at y gwaith o drechu Natsïaid yr Almaen ym Mharc Bletchley drwy fod wrth galon gwasanaeth dirgel y wladwriaeth Brydeinig adeg y rhyfel? Dau ohonynt oedd yr ysgolheigion Cymraeg blaenllaw Idris Foster a Melville Richards.

Meic Pattison
Mwy
Steffan Harri
Theatr

Un o’r Tylwyth – holi Steffan Harri

‘Mae’r rhan yma’n rhodd i unrhyw actor.’ Geiriau Steffan Harri am ei ran yn Tylwyth, cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol. Mae’r actor 30 oed yn siarad o Gaerdydd, rhwng ymarferion yn Theatr y Sherman, gydag wythnos a hanner i fynd tan y daith. Mae’n chwysu ychydig ac yntau newydd wneud milltiroedd ar ei feic Peloton – er bod yr ymarferion eu hunain yn gofyn tipyn gan y corff a’r llais, meddai.

Tylwyth yw ail ddrama Daf James am griw o ffrindiau hoyw a gyflwynodd inni gyntaf yn Llwyth yn 2010. A ninnau wedi eu cyfarfod bryd hynny ar noson allan wyllt yng Nghaerdydd, maent bellach ddeng mlynedd yn hŷn. A challach? Amser a ddengys.

Mae Aneurin y prif gymeriad, yma o hyd, yn cael ei chwarae eto gan Simon Watts, ac felly hefyd Gareth, Rhys a Dada (Michael Humphreys, Arwel Davies a Danny Grehan). Ond mae yna rywun newydd pwysig ym mywyd Aneurin hefyd erbyn hyn, sef Dan, y cymeriad mae Steffan Harri yn ei bortreadu.

Menna Baines
Mwy
Protestwyr ifanc yn erbyn Arwisgo 1969 yng Nghaernarfon
Cwrs y byd

Wylit Lywelyn

A minnau wedi bod yn newyddiadura am ymhell dros hanner canrif, mae gwrando a gwylio bwletinau a rhaglenni newyddion yn ogystal â darllen y wasg brint wedi bod yn rhan mor naturiol ag anadlu o ’mywyd beunyddiol i. Ac yn y blynyddoedd diwethaf mae derbyn y penawdau ar sgrîn ffôn, tabled a chyfrifiadur wedi dod hefyd yn ffynhonnell nad ydym ni jyncis newyddion yn gallu byw hebddi. Ond yn wahanol i’r artaith y mae’r rhai sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau eraill yn gorfod ei dioddef wrth frwydro i ymryddhau o’u dibyniaeth, fe ddaeth rhyddhad yn rhwydd i mi.

Eto, dyw’r gymhariaeth honno ddim yn hollol addas. Methu byw heb gyffuriau mae’r trueiniaid y cyfeiriais atyn nhw uchod. Ond dod i fethu dioddef derbyn rhagor o newyddion wnes i. Ar ôl ychydig ddyddiau o gael fy stwffio â gormod o bwdin brenhinol, fel y ci yn yr hen ddywediad fe dagais innau.

Am y tro cyntaf yn fy hanes fedrwn i ddim gwylio na gwrando ar y newyddion.

Vaughan Hughes
Mwy

Cip ar weddill rhifyn Hydref

Y teulu brenhinol ac arweinyddion – Dafydd Iwan, Dafydd ab Iago, Bethan Kilfoil, Andrew Misell, Elin Llwyd Morgan

Plaid Boris a Farage yw’r Ceidwadwyr bellach – Guto Bebb

Saga Betsi Cadwaladr – Catrin Elis Williams

Hanes hanes Cymru – Huw Pryce

Y Pinot Noir gorau – Shôn Williams

Cofio dy Wyneb – efallai – Deri Tomos

‘Dal y Mellt’ yn plesio – Elinor Wyn Reynolds

Nyth hanner gwagBeca Brown

Mwy
Cyfweliad Noson Gelf – Eddie Ladd yn holi Shani Rhys James a Stephen West
Digidol

Eddie a’i harth yn cynnig ffordd ymlaen

Daeth i’r amlwg yn ddiweddar bod Radio Cymru am dynnu Stiwdio, yr unig raglen Gymraeg yn benodol i drafod y celfyddydau ar unrhyw gyfrwng traddodiadol, oddi ar yr awyr. Daeth gwefan The National, ymdrech i gapitaleiddio ar y gynulleidfa ar gyfer gwasg newyddion annibynnol Gymreig, a oedd yn eiddo i Newsquest, i ben ar ôl llai na deunaw mis o weithredu. A chyhoeddwyd mai Michelle Donelan, un o frwydrwyr amlycaf y ‘culture wars’, fyddai’r gweinidog â chyfrifoldeb dros ddiwylliant dan Liz Truss. Prin fod rhestru’r straeon newyddion uchod, a ddaeth i’r amlwg o fewn wythnos i’w gilydd, yn gwneud rhywun yn obeithiol am drafodaeth ystyrlon ynghylch y celfyddydau heddiw. Eto, tybed nad yw’r fath apocalyptiaeth yn masgio’r wir sefyllfa? Achos i mi, mae’r sffêr feirniadol-gelfyddydol Gymraeg yn teimlo’n iachach nag erioed, dim ond inni stopio dibynnu ar yr hen sefydliadau pell-i-ffwrdd i fwydo’n hawch am gyfryngau celfyddydol.

Mae Noson Gelf / Art Night yn un engraifft o fenter gelfyddydol newydd sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i wledda ar ddiwylliant Cymreig amrywiol.

Dylan Huw
Mwy
Perfformiad o Achos Makropulos/The Makropulos Affair a ffotograff o Janáček
Cerdd

Janáček a Chymru

Ystyrir Leoš Janáček yn un o gewri byd opera. Eto i gyd, prin hanner can mlynedd yn ôl, dim ond aficionados pybyr fyddai’n gwybod amdano. Ers hynny, bu Opera Cenedlaethol Cymru, gyda’u hymrwymiad neilltuol i waith Janáček, ar flaen y gad yn cyflwyno ei gampweithiau i gyhoedd ehangach, gan helpu i sicrhau lle iddo ochr yn ochr â’r enwau amlycaf fel Mozart, Verdi a Puccini. Wrth i’r cwmni lwyfannu Achos Makropulos/The Makropulos Affair y tymor yma, dan arweiniad eu cyfarwyddwr cerdd Tomáš Hanus – ac yntau’n hanu nid yn unig o’r un ddinas â Janáček, sef Brno yn y Weriniaeth Tsiec, ond yn union yr un stryd – diddorol yw edrych ar y berthynas arwyddocaol hon a’r hwb a roes i statws y cyfansoddwr a’r cwmni fel ei gilydd.

Rian Evans
Mwy
Cartŵn coctel Tywyll a Stormus yn dangos wyneb Pŵtin mewn gwydr
Dei Fôn sy’n dweud

Craciau yn fy ngwydr hanner llawn

‘A ddaeth Dy awr, O Dduw, dy awr ofnadwy Di?’ oedd cri ingol Gwenallt ganol y ganrif ddiwethaf, wrth dybio gweld holl seiliau ei wareiddiad yn dymchwel. Ddaeth yr awr ofnadwy honno ddim yn ei oes ef, ond tybed beth pe gofynnai’r cwestiwn heddiw? Mae’r gaeaf ar ein gwarthaf, yn drosiadol yn ogystal ag yn llythrennol. Mae’r misoedd nesaf yn bygwth cymaint o broblemau fel nad yw rhywun yn gallu dirnad eu maint na’u heffaith, heb sôn am sut i’w hwynebu. Efallai mai dyma’r amser i fynd i’r gwely a thynnu’r dillad dros ein pennau.

Os nad hynny, cyngor call ar gyfer ymdrin gyda phroblemau yw bod yn rhaid eu diffinio cyn eu hwynebu, gweld eu hyd a’u lled, yna cynllunio ar eu cyfer. Fedrwch chi ddim ymladd llew os paratoesoch ar gyfer pŵdl. Er gwaethaf y problemau enbyd sydd ar ddod, mae un yn llawer iawn mwy na’r gweddill, er mai hi sy’n gyfrifol am rai o’r gweddill hefyd.

Dei Fôn
Mwy