Mae’r rhifyn diweddaraf yn llawn dop o erthyglau difyr: llyfrwerthwraig yn cyhuddo’r Cyngor Llyfrau o ddiystyru siopau llyfrau yn eu hadroddiad ar e-lyfrau, a chyn-ddarlledwr teledu yn ceisio – ac yn methu – gwneud synnwyr o’r bennod ddiweddaraf yn hanes S4C/Tinopolis/Heno. Yr AS a’r bargyfreithiwr Elfyn Llwyd yn dweud pam mae’n rhaid cael cyfundrefn gyfreithiol i Gymru, a Robat Trefor yn trafod pam y mae pobl Gwlad y Basg i’w gweld yn cael gwell hwyl ar gynllunio ieithyddol na ni yng Nghymru. Mae ein colofnydd ym Mrwsel, Dafydd ab Iago, yn cwyno bod cynrychiolwyr Cymru yn Ewrop yn ‘bedwarawd di-liw’ – ond yn dweud bod cysur yn hynny hefyd. Bu Sioned Webb yn holi’r cerddor a’r awdur Rhiannon Mathias sydd, yn ei ffordd ei hun, yn cynnal traddodiad teuluol o ymroi i gerddoriaeth. A sôn am deulu, ai Saunders yw tad roc a rôl Cymru? Dyna gwestiwn pryfoclyd Hefin Wyn. Am ateb, a gwledd o ddarllen, mynnwch eich copi.
Bethan Kilfoil
Yr adeg yma o’r flwyddyn mae cestyll bownsio dirifedi yng ngerddi Iwerddon, bwytai yn fwrlwm o deuluoedd swnllyd yn dathlu, a’r eglwysi pabyddol yn llawn o blant nerfus yn eu dillad gorau.
Hwn yw tymor y Cymun Cyntaf – un o ddefodau mawr yr Eglwys, ac un o’r achlysuron teuluol pwysicaf o’r cyfan. Pan gyrhaeddais i yma i fyw ddeuddeng mlynedd yn ôl, doedd gen i ddim syniad pa mor bwysig yw’r Cymun Cyntaf, na faint o sylw o roddir iddo. Does dim oll yng nghalendr enwadau anghydffurfiol Cymru na’r Eglwys yng Nghymru sy’n ennyn y fath gyffro. Mae o’n garreg filltir ym mywyd y plant, ac yn gymaint rhan o wead cymdeithas â’r Nadolig ei hun.