Mae rhifyn Mai yn llawn i’r ymylon o’r ysgrifennu craff arferol ar amrywiaeth o bynciau amserol. Mae Sioned Williams, a dreuliodd gyfnod y llynedd yn byw yn Cambridge, Massachusetts, yn esbonio pam y mae ffawd y brodyr sy’n cael eu hamau o osod bomiau Marathon Boston yn destun galar yr un mor ddwys yn y gymdogaeth â’r bywydau diniwed a ddinistriwyd gan y bomiau. Trafod y gwersi sydd i’w dysgu o’r epidemig o’r frech goch yn ardal Abertawe y mae’r Meddyg Plant Ymgynghorol, Dewi Evans, tra mae Bethan Wyn Jones, yn sgil y llifogydd diweddar, yn galw am ddeddfwriaeth i atal adeiladu ar y gorlifdir. Mae Bethan Kilfoil, Will Patterson, Deian Hopkin a Roy Thomas yn trafod agweddau ar deyrnasiad a gwaddol Margaret Thatcher gan gynnwys ambell agwedd annisgwyl. Theatr wleidyddol yw pwnc Gareth Miles, a phwer celfyddyd sydd dan sylw gan Marian Delyth hefyd, awdur colofn Fy Hoff Lun y tro hwn. Mynnwch gopi er mwyn darllen hyn oll, a llawer mwy.
Beca Brown
Mae dyfodiad mis Mai yn ein ty ni fel arfer yn golygu dau beth: Eisteddfod yr Urdd, a thymor y twrnameintiau pêl-droed. Ymylol ydi’n rhan i yn y naill gwffas na’r llall fel arfer, a chyn belled â bod ’na betrol yn y car ac arian yn fy mhwrs, rydw i wedi cyflawni fy nyletswydd yn llygaid y beirniaid bach.
Ond eleni, mae pethau’n wahanol gan mai fi, o bawb, sydd wrthi’n paratoi i reoli tîm dan-9 Llewod Llanrug yn nhwrnameint pwysica’r tymor ymhen yr wythnos. Jaman, ys dywed fy mhlant.