Yr ASE o Gymru Nathan Gill gafodd y fraint o ymddangos ar yr unig dudalen ym maniffesto UKIP lle gwelir llun o berson du. Ar daith i Affrica yr oedd Gill, sy’n gwenu’n braf yng nghwmni’r wraig a welir yma. Ond a fyddai hi’n gwenu pe gwyddai bod Gill a’i blaid am dorri ar yr arian datblygu i’w gwlad?
Datblygu a rhoi siawns i ieuenctid Affrica sefyll ar eu traed eu hunain yw un o’r atebion amlwg i’r argyfwng dyngarol sy’n wynebu Ewrop. A bydd tywydd braf yr haf yn dwysáu’r argyfwng ac yn temtio rhagor o’r 500,000 o bobl sydd yn aros, yn ôl rhai, i groesi Môr y Canoldir.
Mai 2015 / Rhifyn 628

‘Dwylo dros y môr’ – ddim bellach

Draig ar y Mynydd
Ddiwedd y mis hwn, gobaith Iestyn Richards-Rees oedd bod y Cymro ieuengaf i sefyll ar gopa Everest. Ddydd Sadwrn 25 Ebrill, dridiau ar ôl i Barn fynd i’r wasg gyda’r erthygl amdano’n paratoi i ymadael am Katmandu, y digwyddodd y daeargryn 7.8M yn Nepal gyda chanlyniadau echrydus. Erbyn hynny roedd Iestyn wedi dringo o Base Camp y gogledd i uchter o tua 7,000 medr (mae dringwyr yn paratoi am y cyrch terfynol ar y copa trwy dreulio tua 6 wythnos yn dringo i fyny ac i lawr y mynydd, i gryfhau ac i arfer â’r uchelder); teimlodd y cryndod brawychus yn y ddaear a gwelodd greigiau a rhew yn syrthio o’i gwmpas...

Daeargryn Donaldson?
Ymateb i adroddiad radical yr Athro Donaldson ar addysg yng Nghymru y mae ein colofnydd y tro hwn. Mae’n ei groesawu, ond yn seinio ambell rybudd hefyd.
Mae Adroddiad Donaldson yn glir, yn gynhwysfawr, ac yn cynnig ffordd ymlaen a all, o’i dilyn yn weddol ddiwyro, lusgo addysg Cymru i’r oes fodern. Ond mae meini tramgwydd, mae bwganod, ac mae goblygiadau. Os na wynebir y rheiny, a’u goresgyn, ni cheir dim ond yr un hen stori.

Gwleidyddiaeth y Brydain Newydd
Beth bynnag fydd y canlyniadau mewn etholaethau unigol yn yr Etholiad Cyffredinol y mis hwn, mae’r awdur yn argyhoeddedig fod refferendwm yr Alban y llynedd wedi rhoi cychwyn ar newidiadau gwleidyddol oddi mewn i’r ynysoedd hyn na ellir eu hatal.
A ninnau yng nghanol prysurdeb yr ymgyrch, rwy’n tybio fod yna eisoes hen ddigon o arwyddion i awgrymu y caiff yr etholiad ei gofio fel un cwbl allweddol a ffurfiannol. Oblegid nid yn unig y mae hwn yn etholiad amlbleidiol (nid oes dim yn newydd yn hynny, wrth gwrs), ond y mae hefyd yn etholiad gwirioneddol amlgenedl.

Peidiwch ag Anghofio Amdanom
Ynghanol dathliadau 2015, ganrif a hanner ar ôl i’r fintai gyntaf o Gymry hwylio i Batagonia ar y Mimosa, beth yw’r rhagolygon i’r Gymraeg yn y Wladfa? Dyna’r cwestiwn anodd sy’n cael ei ofyn yma gan un Gymraes sy’n magu teulu yno.
Eleni cyhoeddir argraffiad newydd o Pethau Patagonia – atgofion hynod ddifyr Fred Green o’r Wladfa. Ar ddiwedd y gyfrol wreiddiol (1984) cyhoedda’r awdur, ‘Fel y dywedwyd o’r blaen gan eraill, y mae’r Gymraeg bron â diflannu o farwolaeth naturiol a bron na ddywedwn na ellir sôn amdani bellach… Daeth cael sgwrs yn y Gymraeg yn anos bob dydd’. Heddiw, ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ydi’r Gymraeg yn y Wladfa yn dal ar ei gwely angau, neu wedi – neu ar fin – trengi?

Cofio R. Geraint Gruffydd
Ar 24 Mawrth bu farw’r Athro R. Geraint Gruffydd, un o ysgolheigion mawr ein hoes a chyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol. Dau o’i gyfeillion, a fu hefyd yn cydweithio ag ef, sy’n crynhoi ei yrfa ddisglair a’i ymlyniad wrth y ffydd Gristnogol a oedd mor allweddol i’w fywyd, gan rannu rhai o’u hatgofion personol ohono.
Y Dyneiddiwr Protestannaidd
Ym marwolaeth R. Geraint Gruffydd collodd y Gymraeg a’i llenyddiaeth ysgolhaig nodedig. O ganu’r Cynfeirdd hyd at farddoniaeth Saunders Lewis, roedd hyd a lled diddordebau academaidd Geraint yn rhyfeddol. Rhyfeddol hefyd oedd rhychwant ei feistrolaeth ar gyfryngau’r ysgolhaig. Dengys ei waith ar lenyddiaeth y Dadeni a’r Diwygiad Protestannaidd ei fod yn hanesydd llên penigamp.
Y darlithydd cyfareddol a’r bugail tyner
Rwy’n cofio mynd yn sâl, ac yntau’n dod i edrych amdanaf. Estynnodd am y Beibl a darllen o Eseia: ‘y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant’. Gan ein bod yn addoli yn yr un gynulleidfa, dros nifer o flynyddoedd fe’i gwyliais yn rhoi ei ffydd ar waith mewn ffordd ymarferol. Yn ddyn ifanc fe blediodd am ‘fynediad i’r deyrnas’, ac fe ymddiriedodd yng Nghrist fel Ceidwad ac Arglwydd personol yn ddiwyro o’r eiliad honno ymlaen.