Mai 2016 / Rhifyn 640

Refferendwm

Refferendwm aml-wlad, aml-genedl

Awgryma’r dystiolaeth y bydd patrymau pleidleisio Cymru yn debycach i’r rhai yn Lloegr nag yng ngweddill gwledydd Prydain. Ai breuddwyd gwrach oedd ‘Cymru Ewropeaidd’ Saunders Lewis ac eraill?
Yn ei gyfrol arloesol Banal Nationalism mae Michael Billig yn trafod y modd y caiff cenedlaetholdeb mwyafrifol y wladwriaeth ei atgynhyrchu drwy fyrdd o weithredoedd bach disylw, di-sôn amdanynt...

Richard Wyn Jones
Mwy
O Ewrop

Y diwrnod pan newidiodd popeth

Y mis hwn mae dod o hyd i’r geiriau i gyfleu’r ymosodiadau terfysgol ar Frwsel, fy ninas fabwysiedig, yn anodd tu hwnt. Ar 22 Mawrth siglwyd Brwsel i’w seiliau. Mae’n ymddangos i mi y byddwn o hyn ymlaen yn edrych ar bopeth a ddaw i ran y ddinas hon, yn wleidyddol a chymdeithasol, yn nhermau ‘Cyn 22 Mawrth’ a ‘Wedi 22 Mawrth’.

Dafydd Ab Iago
Mwy

Fine Gael a Fianna Fáil – mor agos ac eto mor bell

Ddeufis ers etholiad cyffredinol Gweriniaeth Iwerddon, parhau heb lywodraeth mae’r wlad. Mae rhaniadau chwerw’r gorffennol eto’n bwrw eu cysgod dros y presennol.
… Does dim angen imi fwydro’ch pennau efo’r ffigyrau. Yn fras, mae’r hen drefn a alluogai’r ddwy brif blaid – Fianna Fáil a Fine Gael – i arglwyddiaethu wedi chwalu. Pleidleisiodd yr etholwyr dros amrywiaeth o bleidiau a does neb efo digon o seddi i ffurfio llywodraeth na chlymblaid.

Bethan Kilfoil
Mwy
Materion y mis

Steddfod yn y Bae

... Efallai mai fi sy’n hen ffasiwn ond dwi’n hoff o Faes hefo ffiniau penodol – mae’n symbolaidd bwysig. Am wythnos gyfan, does dim rhaid inni ymddiheuro am ddefnyddio ein hiaith o fewn ei muriau. Er bod croeso twymgalon i ddysgwyr a’r di-gymraeg, mae’r Gymraeg yn cael blaenoriaeth dros y Saesneg ac mae’r mwyafrif llethol sy’n dod drwy’r glwyd yn ymwybodol o hynny ac yn gefnogol i’r drefn.

Heledd Fychan
Mwy
Cofio Gwyn Thomas

Mab neilltuol ein Hymneilltuaeth

Ar 13 Ebrill bu farw Gwyn Thomas, un o feirdd a ffigurau llenyddol amlycaf yr hanner canrif diwethaf. Fel ysgolhaig a darlithydd daeth â’r traddodiad barddol Cymraeg cynnar yn fyw i genedlaethau o fyfyrwyr. Cyflwynodd ein chwedlau canoloesol hefyd i gynulleidfaoedd newydd mewn cyfieithiadau, addasiadau a sgriptiau teledu. Yma mae cydweithwyr a chyfeillion yn rhannu eu hargraffiadau o’r dyn a’i waith.
... Pan welais ef gyntaf, yn nhe croeso’r ffreshyrs yn Neuadd Reichel ym Mangor yn hydref 1963, edrychai mor ifanc fel y camgymerais ef am lasfyfyriwr. Nid dyna ydoedd, wrth gwrs, ond un o gynfyfyrwyr disgleiriaf yr Adran Gymraeg yn dychwelyd iddi’n ddarlithydd. Am hanner cant a thair o flynyddoedd ni chefais anghofio fy nghamgymeriad! Yn 1975 y dychwelais i i Fangor, a daethom yn gydymdeithion agos.

Derec Llwyd Morgan
Mwy

Dyn y deuoliaethau

...Wrth edrych yn ôl ar y 1960au, hawdd iawn yw colli golwg ar drawsnewidiad diwylliannol arwyddocaol... Roedd Gwyn yn un o’r penseiri hynny a ailddyfeisiodd ddiwylliant y Gymraeg. Wrth i dra-arglwyddiaeth Ymneilltuaeth dros ddiwylliant a bydolwg y Cymry Cymraeg ymddatod yn derfynol, tafluniwyd yn ei farddoniaeth ef Gymru fwy seciwlar ei natur a chreodd fesur helaeth o gymod rhyngddi a’r diwylliant poblogaidd Eingl-Americanaidd.

Peredur Lynch
Mwy

Geiriau Gwyn

Ni fyddai neb drigain mlynedd yn ôl wedi gallu dyfalu beth fyddai union natur y corff rhyfeddol hardd o ganu y byddai’n ei roi i’w genedl.
O ragweld dyfodol disglair iddo fel bardd o gwbl, hwyrach mai bardd dysgedig, syber yn ymuno â’r garfan fodernaidd a ddisgwylid . . . ond buan y daeth hi’n amlwg fod Gwyn am droedio ffordd amgen.

Robert Rhys
Mwy

Impyn y Penrhyn: Pyrs Gruffudd (1568–1628)

Mae llyfr newydd yn mynd â ni ar drywydd un o gymeriadau mwyaf lliwgar oes Elisabeth – etifedd plas y Penrhyn, môr-leidr, anturiwr, bardd ac ysbïwr posib.
20 Ebrill, 1588. Llanc deunaw oed yn hwylio i lawr y Fenai, ‘Dros y bar ar draws y byd’, i ymladd yn erbyn yr Armada. Gydag ef ar ei long mae ei griw: 41 o ddynion a bechgyn anturus o Fangor.

Glenys Mair Lloyd
Mwy