Mae Barn yn awyddus i benodi is-olygydd ar delerau llawrydd. Bydd yr is-olygydd yn gwneud cyfraniad creiddiol tuag at ddarllen proflenni, sicrhau ansawdd a chywirdeb y testun a chydweithio gyda’r dylunydd yn ogystal â chyfrannu at agweddau eraill ar y gwaith o gynhyrchu’r cylchgrawn. Yn dibynnu ar brofiad a doniau gall hyn gynnwys, er enghraifft, ysgrifennu deunydd a chwilio am ddeunydd gweledol. Cynigir ffi o hyd at £600 y rhifyn am 8 rhifyn sengl y flwyddyn, a hyd at £1200 am y ddau rifyn dwbwl. Dylech wneud cais trwy anfon eich CV at swyddfa@barn.cymru erbyn 10 Mai. Y bwriad yw bod y sawl a benodir yn cysgodi’r is-olygydd presennol, Ann Gruffydd Rhys, ac yn cydweithio â hi wrth i rifynnau Mehefin (os yn ymarferol) a Gorffennaf/Awst fynd trwy’r wasg yn Llandybïe, gan gymryd cyfrifoldeb llawn o rifyn Medi 2017 ymlaen. Os am sgwrs anffurfiol am y gwaith mae croeso i chi gysylltu â Robert Rhys, Cadeirydd Barn, trwy e-bost yn y lle cyntaf robert.rhys@gmail.com
Mai 2017 / Rhifyn 652

Iwerddon Unedig ar ôl Brexit?
Y person cyntaf yr aeth y Taoiseach Enda Kenny i’w weld ar ôl i Theresa May danio Erthygl 50 a chychwyn y broses o adael Ewrop oedd ei hen ffrind, Angela Merkel. Cafodd Enda groeso cynnes gan Angela. Wrth iddyn nhw gyfarfod ym Merlin ar 7 Ebrill fe addawodd hi y byddai’r Almaen a’r Undeb Ewropeaidd yn edrych ar ôl buddiannau Iwerddon yn ystod trafodaethau Brexit.
A dyna’n union yr oedd Enda angen ei glywed.
Mae Enda ac Angela Merkel yn gyfeillion gwleidyddol ers tro byd, y ddau wedi bod yn eistedd wrth fwrdd arweinwyr yr UE efo’i gilydd ers chwe blynedd...
Ac mae angen pob ffrind posib ar Iwerddon y dyddiau hyn, gan fod goblygiadau Brexit yn fwy difrifol i Iwerddon nag i unrhyw wlad arall o fewn yr UE.

Gwyliau Mici Mows
A ninnau’n ’nelu am y Sulgwyn a gwyliau’r haf, mae’r ffeit wedi dechrau i gael gafael mewn trip tramor ar gost resymol – achos mae’n rhaid cael gwyliau ‘go iawn’ does, ac mae hynny’n golygu un drud yn rhywle go bell.
Mae cael gwyliau dramor mor bwysig bellach nes bod nifer cynyddol o rieni yn fodlon mynd i gyfraith dros yr hawl i dynnu eu plant allan o’r ysgol er mwyn gallu mynd ar adeg fwy fforddiadwy...
Peidiwch â chamddeall – does dim byd yn bod ar fod isio mynd dramor ar wyliau. Ond ydi hi’n ddiwedd y byd os nad ydi hynny’n bosib? Gwyliau yn Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynys Enlli ges i gan amlaf pan oeddwn yn blentyn – yndyn, maen nhw dros y dŵr ac roedden nhw’n llefydd braf iawn pan oedd y tywydd o’n plaid...

Nodau’r Tŵr
Mae opera newydd Gymraeg yn rhoi bywyd newydd i un o ddramâu enwocaf y theatr Gymraeg. Bu BARN yn clywed am y broses greadigol y tu ôl iddi gan y cyfansoddwr, Guto Puw, ac awdur y libreto, Gwyneth Glyn.
Os gofynnwch i’r ‘Cymro cyffredin’, pwy bynnag yw hwnnw, enwi opera Gymraeg, mae’n debyg y câi drafferth i enwi un. Efallai y byddai ambell un yn enwi Blodwen Joseph Parry, yr opera Gymraeg gyntaf (prin fod deuawd Gymraeg enwocach na ‘Hywel a Blodwen’ o’r opera honno), ond byddai pobl y tu allan i’r byd cerddorol yn cael trafferth, o bosib, i ddwyn enw unrhyw opera ddiweddarach na hynny i gof er bod ambell un wedi cael ei chyfansoddi a’i pherfformio yn y cyfamser.
Argyfwng darpariaeth iechyd cefn gwlad
Mae’n stori sy’n gynyddol gyfarwydd – meddygfeydd gwledig yn cael trafferth denu staff, eu cleifion yn gorfod aros wythnosau am apwyntiad, ac yn y diwedd y feddygfa’n cau ei drysau gan nad yw’r gwasanaeth yn gynaliadwy. Iechyd y gymuned honno’n gwaethygu o ganlyniad i’r diffyg darpariaeth. A yw’n syndod nad yw meddygon yn cael eu denu i fyw a gweithio yn y fath gymunedau, a pham bod prinder o feddygon teulu?
Mae’r ffordd mae meddygon teulu’n gweithio wedi newid yn llwyr dros y blynyddoedd... mae meddygaeth yn gyffredinol yn llawer mwy cymhleth nag y bu, a phoblogaeth sy’n heneiddio yn dod â mwy o broblemau meddygol. Nid yw cleifion bellach yn ffitio i flwch taclus – mae llawer o systemau’r corff a’r meddwl yn aml yn dirywio ar yr un pryd.

Etholiad Cyffredinol 2017
Ac wele, wedi crwydro’n hir ym mynyddoedd a dyffrynnoedd Eryri fe benderfynodd Theresa May ei bod yn amser cynnal etholiad cyffredinol brys. Wedi’r sioc cychwynnol, dyma bum peth i gadw llygad arnynt dros yr ychydig wythnosau nesaf o ymgyrchu.
1. Unwaith eto…?
I ba raddau y bydd Ceidwadwyr yn ymladd etholiad cyffredinol ar sail yr un strategaeth a brofodd mor llwyddiannus gwta ddwy flynedd yn ôl yn 2015? Bryd hynny fe gyflogwyd Lynton Crosby i redeg yr ymgyrch. Ei gredo yw symleiddio: ‘scrape the barnacles off the boat’ yw un o’i hoff ymadroddion. Canolbwyntwyd egnïon y Ceidwadwyr ar gant o etholaethau, hanner ohonynt yn seddau lle’r oedd y Ceidwadwyr yn amddiffyn a’r hanner arall yn seddau lle’r oedd y blaid yn ymosod...
CIP AR WEDDILL Y RHIFYN
Yn BARN Mai mae’r cyn-fargyfreithiwr Elfyn Llwyd yn gofidio bod cau cynifer o lysoedd barn yn peryglu’r holl broses o weinyddu cyfiawnder yn yr ynysoedd hyn, a Bethan Kilfoil yn gofyn faint o obaith sydd am Iwerddon unedig ar ôl Brexit. Pwyll ap Siôn sy’n coffáu’r actor a’r cerddor Dafydd Dafis, tra mae David Leslie Davies yn talu teyrnged i’r awdures Nansi Selwood. Gwaith artist encilgar o Abertyleri, Roger Cecil, sydd dan sylw gan Rhiannon Parry, ac yn yr adran lyfrau ceir cyfweliad gydag Ifan Morgan Jones ar achlysur cyhoeddi ei drydedd nofel, adolygiad gan Derec Llwyd Morgan o gyfrol farddoniaeth gyntaf Peredur Lynch, a llawer mwy.

Cofio’r Arglwydd Gwilym Prys-Davies (1923–2017)
Cymro i’r carn
Yr oedd Gwilym Prys Davies yn un o feibion galluocaf a mwyaf ymroddedig Cymru. Ni ellir ysgrifennu hanes y Gymraeg na’r Cynulliad heb grybwyll ei gyfraniad disglair.
Sylweddolodd fod y wladwriaeth Brydeinig wedi ceisio ei gorau glas i ddileu ein hiaith ac mai llugoer at ei gilydd oedd ein gwleidyddion Cymreig tuag ati. Ac nid ein gwleidyddion yn unig. Pan symudodd o’r ysgol yn ei Lanegryn enedigol i Ysgol Tywyn, un athro yn unig oedd yn barod i sgwrsio yn iaith aelwyd Pen-y-banc... Yn wir aeth yr athro Saesneg yn Nhywyn, T.V. Davies, mor bell â cheryddu Gwilym a dau Gymro arall gyda’r geiriau: ‘Boys, Welsh counts for nothing east of Machynlleth – siaradwch y Saesneg’.
Dyna’r ysgogiad a’i gwnaeth yn Gymro i’r carn.