Hoffwn glywed eich barn am Barn! Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr petai modd i chi ateb ein holiadur ar-lein, sydd ar gael yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/BPK6WRL
Mai 2018 / Rhifyn 664

Ailystyried Caersallog
Caersallog. Dyna i chi enw oedd yn anghyfarwydd i mi cyn achos gwenwyno’r cyn-ysbïwr Rwsiaidd sergei skripal a’i ferch Yulia yn gynharach eleni, er fy mod yn weddol gyfarwydd â’r ddinas ei hun.
Ond tra bo’r gair ‘dinas’ yn cyfleu tref fawr neu fetropolis, mae Caersallog – neu Salisbury (Sawzbree yn lleol) – ymhlith y dinasoedd lleiaf yng ngwledydd Prydain, a chanddi boblogaeth dipyn mwy na Bangor a thipyn llai na Chaer. Yn wir, ‘Smallsbury’ oedd llysenw’r trigolion arni, yn ôl y sôn, am nad oedd unrhyw beth o bwys byth yn digwydd yno – tan yn ddiweddar. Ers blynyddoedd, bu’r cymar yn mynd yno bob hydref, i archwilio a gwneud gwaith cynnal a chadw ar offer meddygol yn Uned Anafiadau i’r Cefn yr ysbyty a’r ardal yn gyffredinol. Ar ôl i Joel setlo yn y coleg, manteisiais innau ar y cyfle i fynd efo fo, er i mi gael fy siarsio i beidio â chrybwyll y peth ar y cyfryngau cymdeithasol rhag ofn i bobl feddwl mai jolihoet oedd y trip yn hytrach na gwaith. Bron na fyddai rhywun yn tybio ein bod ni yno ar ryw berwyl peryglus ym myd cudd-wybodaeth ryngwladol, cymaint oedd y cyfrinachedd o gylch ein hymweliad.

Abertawe – Dinas Noddfa
Ddeng mlynedd yn ôl i eleni fe gyrhaeddodd Stepheni Kays Abertawe. Roedd hi ar ffo o Zimbabwe − wedi gorfod gadael ei mamwlad, a’i babi wythnos oed, ar frys oherwydd erledigaeth. Mae’n cofio croesi Pont Hafren i Gymru ar noson Guto Ffowc a thân gwyllt yn goleuo’r nos dywyll. Yn lwcus i Stepheni cafodd statws ffoadur yn gyflym ac erbyn hyn mae hi, ei gŵr a’u pedwar plentyn wedi ymgartrefu’n braf yn ein hail ddinas a Stepheni yn gweithio i brosiect Dinas Noddfa Abertawe − rhan o rwydwaith o bobl leol a grwpiau cymunedol sy’n cynnig diogelwch a chroeso i rai ar ffo. Staff bychan, dan arweiniad Rebecca Scott − dysgwraig Gymraeg frwd o Birmingham − ynghyd â gwirfoddolwyr sy’n cynnal yr achos ac yn cefnogi’r naw cant o geiswyr lloches yn Abertawe. Mae ’na bobl o bob rhan o’r byd yma, o El Salvador i Eritrea, wedi gadael cartre oherwydd rhyfel, crefydd, eu rhywioldeb neu wrthwynebiad i lywodraeth eu gwlad. A hwythau o wahanol gefndiroedd cymdeithasol, mae cynllun arloesol Croeso i Abertawe − Dinas Noddfa yn eu helpu i setlo mewn amgylchiadau anghyfarwydd.

Plaid Cymru a’r Weriniaeth Gymreig
Go brin fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi disgwyl y fath ymateb. Roedd wedi cyhoeddi bwriad y Llywodraeth Brydeinig i ailenwi’r ail bont fawr dros Hafren i ddathlu penderfyniad y Frenhines i draddodi Cymru’n rhodd symbolaidd i’w mab hynaf pan oedd yntau’n fachgen naw mlwydd oed. Does bosib na fu’r adwaith negyddol nid yn unig yn ffyrnicach ond lawer iawn yn ehangach nag yr oedd Swyddfa Cymru wedi ei ddisgwyl? Cyn-gynghorydd y Democrataidd Rhyddfrydol roddodd gychwyn ar y ddeiseb sydd wedi arwain rhai degau o filoedd i ddatgan yn gyhoeddus nad yw Tywysog Cymru wedi cyflawni dim drosom. Ac os yw’r negeseuon yr wyf i wedi eu derbyn yn gynrychioladol, mae rhai o gefnogwyr y Blaid Lafur Gymreig ymysg y rheini sydd fwyaf chwyrn eu gwrthwynebiad. Rwy’n tybio nad oes llawer o genedlaetholwyr Cymreig pybyr yn disgwyl gwell gan Alun Cairns, ond fe ymddengys fod llaweroedd o Gymry gwlatgar nad ydynt yn ystyried eu hunain yn genedlaetholwyr wedi eu synnu a’u siomi’n ddirfawr gan y penderfyniad i ailenwi’r bont. Yng ngeiriau un Llafurwr digon amlwg: ‘It just signals our subjugation.’
Wrth gwrs, mae ’na gwestiwn ehangach yn codi o lembo-eiddiwch taeogaidd ‘Pont Tywysog Cymru’. Sef a yw’r ailenwi − fel y tybia rhai − yn rhan o strategaeth fwriadus gan y wladwriaeth i geisio ail-Brydaineiddio Cymru? Y gwir amdani yw nad wyf yn gallu ateb y cwestiwn penodol hwnnw, a hynny oherwydd nad wyf yn gwybod pwy awgrymodd yr ailfathiad ac o dan ba amgylchiadau. Ac eto, rwy’n gyfan gwbl sicr fod yna strategaeth yn deillio o lefelau uchaf Whitehall sy’n anelu at geisio pwysleisio’r buddiannau a ddaw i ran Cymru a’r Alban yn sgil ‘yr Undeb’. Mae’n strategaeth a ddatblygwyd i raddau helaeth yn sgil canlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban. Bryd hynny, fel y dywedodd un gwas sifil hŷn wrthyf, fe sylweddolwyd bod angen gwneud mwy ‘to make sure that all the work that the UK Government does in the devolved territories is better appreciated’.
Cip ar weddill rhifyn mis Mai
Celf Cymraes yn Sydney – Gwenfair Griffith
Colli cwpan, ennill cyfeillion – Rhys Iorwerth
Achos y chwaraewyr rygbi: y gwersi – Bethan Kilfoil
Twristiaeth er lles Cymru – Dafydd Iwan
Nofio pedwar tymor – Prys Morgan
Teyrngedau i Emyr Hywel a Saunders Davies
…a llawer mwy. Mynnwch eich copi nawr.

Martin Luther King
Dangosodd y teyrngedau lu a dalwyd i Martin Luther King bum degawd ar ôl ei lofruddiaeth ym Memphis Tennessee mor fawr yw’r parch o hyd i’w goffadwriaeth. Bu ei gyfraniad i’r frwydr dros hawliau sifil yn ystod ei oes fer (1929-1968) yn aruthrol. Amddifadodd ei lofrudd y byd o arweinydd a fyddai wedi parhau i wneud cyfraniad am ddegawdau i ddod. Tystiolaeth o’i fawredd yw bod ei ddylanwad yn ysbrydoli hyd heddiw.
Cefais y fraint enfawr o’i gyfarfod. Yn 1965 es yn weinidog am flwyddyn i Eglwys Gymraeg Detroit − dipyn o newid i hogyn o Langwyllog yng nghanol Ynys Môn. Gwyddwn cyn mynd, wrth gwrs, am yr ymgyrch hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau ac am y rhan flaenllaw a chwaraeai Martin Luther King ynddi. Fe fûm yn ffodus i gael cyfle i wrando arno’n pregethu mewn gwasanaeth a drefnwyd gan Gyngor Eglwysi Detroit yn ystod Grawys 1966. Fel pob un arall o weinidogion Detroit, cefais wahoddiad i’r oedfa. Gwnaeth argraff annileadwy arnaf fel pregethwr.

O enau plant bychain
‘Dadi, os byddwn ni’n symud i Gymru, fydd Mami’n cael byw gyda ni?’ gofynnodd fy mab hynaf. Y llynedd, ar drothwy etholiadau arlywyddol Ffrainc, fe wnaeth e ddatgan ei gefnogaeth i Emmanuel Macron ryddfrydig a’i anghymeradwyaeth o Marine Le Pen a’i gwleidyddiaeth asgell dde. Pam? Am y pryderai fy mab y byddai Le Pen yn ei gwneud yn amhosib i ni fel teulu yrru oWlad Belg drwy Ffrainc i ymweld â’i fodryb, ei nain a’i gefndryd yn ne Sbaen. Yn iaith dechnegol trafodaethau Brexit, mae fy mab yn poeni am barhad ‘symudiad rhydd dinasyddion o fewn a rhwng aelodwladwriaethau’r Undeb’. Nid yw plant 11 oed yn defnyddio’r fath iaith dechnegol nac yn rhesymu fel oedolion. Iddo fe nid yw’n beth da na fyddai ei fam − sydd â dinasyddiaeth Sbaen yn unig − yn cael byw gyda’i theulu pe dychwelem i Frwsel ar ôl Brexit.

Ffarwel Carwyn
Roedd pawb yn gwybod ers peth amser y byddai Carwyn Jones, yn hwyr neu’n hwyrach, yn rhoi’r gorau i swydd y Prif Weinidog. Yr unig sioc mewn gwirionedd oedd na chafodd y gohebwyr gwleidyddol awgrym ymlaen llaw o’r cyhoeddiad a wnaed yng nghynhadledd Llafur Cymru ei fod am wneud hynny yn yr hydref. Awgrymodd cylch Carwyn Jones iddo fod yn ystyried rhoi’r gorau iddi ers mis Medi. Rwy’n amau mai spin yw hynny ac ymdrech i awgrymu y byddai Carwyn Jones wedi gadael o’i wirfodd pe na bai marwolaeth drasig Carl Sargeant wedi taflu cwmwl dros ei fisoedd olaf yn y swydd. Gellid dadlau bod yr ymdrech i feio un dyn am hunanladdiad cydweithiwr wedi bod braidd yn annheg. Mae’n bosib y daw’r gwirionedd i’r amlwg yn dilyn yr ymchwiliad a chanfod y Prif Weinidog yn gwbl ddi-fai.