Yn ‘Cwrs y Byd’ bron i ddeng mlynedd union yn ôl, ym Mehefin 2009, ‘Parliment Uffernol’ oedd y pennawd a roddais ar y golofn hon bryd hynny hefyd. Trafod sgandal yr aelodau seneddol a fu’n hawlio treuliau drwy dwyll oeddwn i. Yn y diwedd, carcharwyd pump ohonyn nhw. Ymddiswyddodd eraill. Collodd mwy fyth eu seddau pan ddaeth yr etholiad cyffredinol yn 2010.
Yn 2009 ysgrifennais: ‘Ni all yr un ohonom gofio cyfnod erioed o’r blaen pan fu gwerin gwlad mor ddirmygus â hyn o wleidyddion. Ac o wleidyddiaeth. Dyma, yng ngolwg y mwyafrif ohonom, beth yw “Parliment Uffernol” go iawn.’ (Ellis Wynne yn ‘Gweledigaeth Uffern’ biau ‘Parliment Uffernol’.) Ar y pryd wnes i ddim meddwl am eiliad y byddwn i byth eto’n cael achos i ddefnyddio geiriau damniol o’r fath. Ond i hynny mae hi wedi dod unwaith yn rhagor, mae arnaf ofn, yn yr ymrafael diddatrys dros Brexit.