Nid oes angen dawn proffwyd i ragweld y bydd cost economaidd yr argyfwng presennol yn sylweddol iawn, iawn. Bydd swyddi rif y gwlith yn cael eu colli wrth i sectorau cyfan un ai ddarfod amdanynt yn llwyr neu orfod addasu wedi i’r argyfwng ddangos pa mor simsan yw seiliau cynifer ohonynt. Cymerwch y sector yr wyf i’n fwyaf cyfarwydd â hi, sef ein prifysgolion.
Yr wyf wedi nodi sawl gwaith yn y golofn hon fod pleidiau gwleidyddol Cymru wedi blaenoriaethu buddiannau’r genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr ar draul buddiannau hirdymor cymdeithas drwyddi draw gan gynnwys, wrth gwrs, y prifysgolion eu hunain. Hynny er gwaetha’r ffaith mai ein prifysgolion yw conglfeini bywyd economaidd a diwylliannol Cymru, o Wrecsam i Gaerfyrddin, ac o Gasnewydd i Fangor. O ganlyniad i’r agwedd ddi-hid a chibddall hon rydym yn allforio canran frawychus o uchel o’n pobl ifanc galluocaf tra ydym ar yr un pryd yn amddifadu ein sefydliadau addysg uwch o’r modd i gystadlu yn y ‘farchnad’ gystadleuol yr ydym wedi ei chreu ar eu cyfer.