Aeth pedair canrif heibio ers i Edmwnd Prys, un o feirdd y Dadeni, ddisgrifio gwerin dlawd ei oes fel môr diymadferth yn gorfod derbyn popeth sy’n llifo iddo:
Ni all symud, mae’n fud fo,
A bwrn a rôi bawb arno.
A dyma ni, yn 2022, yn dal yr un lle. Gwir y gair fod y ‘tlodion gyda ni bob amser’.
I’r hen, fel fi, teyrnas nostaljia yw ieuenctid, yr hen ddyddiau hirfelyn tesog, paradwysaidd hynny pan oedd popeth yn fêl i gyd. Rhan fawr o’r nostaljia hwnnw yw dyrchafu’r tlodi y magwyd rhywun ynddo i ryw Afallon draw dros don y blynyddoedd. Mewn sgwrs rhwng cyfoedion boldew, breintiedig, ceir cystadleuaeth ‘Pwy oedd dlotaf?’ gan derfynu, yn ddieithriad, gyda’r fonllef fuddugoliaethus ‘Ond doedden nhw’n ddyddiau da?’
Ie, rhyfeddol, a thwyllodrus, yw nostaljia. Mae gen i brofiad personol o fagwraeth dlawd mewn cymdeithas dlawd, a gallaf eich sicrhau mai dim ond pellter y blynyddoedd sy’n melysu’r cof amdano. Y gwir diymwâd yw mai uffern yw tlodi…