Mewn ystafell ymarfer yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, mae ymarferion ar gyfer drama arallfydol yn mynd rhagddynt. Mae Imrie yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr y Sherman a Frân Wen, yn ddrama ffantasïol sy’n edrych ar yr hyn ydyw i fodoli ar y cyrion. Bydd yn cael ei pherfformio yn y Sherman cyn mynd ar daith drwy Gymru. Daw awdur y ddrama, Nia Morais, o Gaerdydd, a chaf sgwrs gyda hi ar gychwyn ail wythnos ymarferion ei drama lawn gyntaf, ynglŷn â’r hyn sy’n dylanwadu ar ei gwaith.
Mae Nia wedi datblygu arddull sy’n plethu realaeth hudol, ffantasi ac arswyd, ond gyda’r straeon wedi eu gwreiddio mewn byd diriaethol. Mae hi’n credu bod y ffurfiau hynny yn rhai sy’n gweddu i’n diwylliant ni yng Nghymru.
‘Mae cymaint o chwedlau i’w cael yma, cymaint o hud a lledrith,’ meddai. ‘Dwi’n gweld hi’n hawdd gwthio ffiniau realaeth gan fod straeon tebyg o’n cwmpas drwy’r amser.’
Mae Imrie yn stori am Josie, sy’n darganfod parti hudolus o dan y dŵr. Mae’r byd arallfydol a’i bobl yn ei swyno, gan ei bod yn teimlo ar goll yn y byd go iawn.