Mai 2024 / Rhifyn 736

Simon Harris, y Taoiseach newydd
Iwerddon

Helo Harris, ffarwél Varadkar – a thynged Donaldson

Yn ôl yn 2011, pan oeddwn i’n dal i weithio fel gohebydd teledu i Newyddion RTÉ, fe dreuliais ddiwrnod yn ffilmio yn Wicklow ar gyfer eitem ynglŷn â rhai o’r TDs (aelodau seneddol) newydd oedd wedi cael eu hethol am y tro cyntaf i’r Dáil. Seren fy eitem oedd aelod ieuengaf newydd y Dáil – llanc 24 oed, Simon Harris. Dwi’n cofio bachgen cyfeillgar, llawn egni a brwdfrydedd, oedd yn fwy na pharod i hwyluso’r ffilmio, ei goesau hirion yn carlamu o gwmpas tref Wicklow, gyda’r dyn camera a finnau allan o wynt wrth geisio cadw i fyny. Teg fyddai dweud nad ydi Harris wedi stopio carlamu ers hynny, gan mai fo, ers y mis diwethaf, ydi Taoiseach newydd Iwerddon, ac yntau dim ond yn 37 oed – y Taoiseach ieuengaf erioed.

Bethan Kilfoil
Mwy
Sioned Wiliam
Teledu

Siwrne’r Sianel – holi Sioned Wiliam

Yn 2022 gadawodd Sioned Wiliam ei swydd fel comisiynydd comedi Radio 4, swydd yr oedd wedi bod ynddi ers saith mlynedd, ac mae hi wedi llwyr fwynhau’r cyfnod o weithio’n llawrydd a gafodd ers hynny. Mae peidio â bod mewn swydd sefydlog wedi rhoi’r cyfle iddi deithio, gan dreulio mis yn Estonia gyda’i mab a oedd yno ar ei flwyddyn dramor fel rhan o’i gwrs prifysgol. Mae hefyd wedi cael amser i ysgrifennu – mae ar ganol ei phumed nofel.

Ond bydd yn rhaid iddi roi’r nofel a phob cynllun personol arall o’r neilltu am y misoedd nesaf er mwyn canolbwyntio ar ei swydd newydd fel Prif Weithredwr dros dro S4C. Mae’r penodiad yn dilyn y flwyddyn anoddaf eto yn hanes y Sianel wrth i’r Prif Weithredwr Siân Doyle gael ei diswyddo ym mis Tachwedd, ychydig wythnosau ar ôl i’r Prif Swyddog Cynnwys, Llinos Griffin-Williams, orfod mynd.

Menna Baines
Mwy
Eleri Jones yn ei harddangosfa
Celf

Prysurdeb wyna mewn printiau

Delwedd enfawr o sied wyna yn llenwi wal gefn Stiwdio 2 yng Nghanolfan Grefft Rhuthun sy’n denu’r llygad yn syth. Ynghyd â lluniad o’r adeilad, y llociau a’r anifeiliaid, mae arni ddyfyniadau mewn llawysgrifen – cofnodion sy’n disgrifio treigl bywyd ar fferm Penoros, Dyffryn Conwy. Printiau tebyg i’r llun ond yn llai sy’n meddiannu gweddill y gofod.

Y cyfnod dwys a phrysur hwnnw rhwng Chwefror a Mawrth ar y fferm deuluol ger Trofarth yw ysbrydoliaeth Amser Wyna, arddangosfa o waith print yr artist Eleri Jones.

‘Dyma pryd mae fy nheulu yn dod at ei gilydd ac ar eu hapusa’ wrth gael eu cario gan brysurdeb y fferm – yn gweithio gyda’i gilydd, mewn rhythm, gyda’r holl siarad a rhannu jobsys,’ meddai. ‘Mae’n rhan o batrwm blynyddol ac oesol. Nid jyst ffermio ydi o – mae’n ffordd o fyw.’

Robyn Tomos
Mwy
Tomos Williams yn chwythu ei drwmped
Cerdd

Cwmwl Tystion – sgwrs â’r trwmpedwr Tomos Williams

Gyda thaith ym Mai a Mehefin yn benllanw dy brosiect Cwmwl Tystion, wnei di sôn ychydig am y syniad sy’n sail i’r prosiect? O ble y daeth a pham?

Roeddwn i’n awyddus i greu prosiect jazz Cymreig a Chymraeg, a fyddai’n dwyn ysbrydoliaeth o’n llenyddiaeth, ein diwylliant a’n profiadau ni fel Cymry. Mae jazz yn gyd-destun eang, yn fyd o brofiad ynddo’i hun, felly roedd y syniad o archwilio Cymru yn y cyfrwng hwnnw, yn ogystal â thrio rhoi i jazz beth o flas diwylliannau Cymru, yn ysgogiad pendant.

Daw’r enw Cwmwl Tystion o’r gerdd ‘Pa Beth yw Dyn?’ gan Waldo Williams. Roedd y teitl hwnnw’n ffordd o dynnu nifer o wahanol linynnau at ei gilydd o’r dechrau un: mae sail Beiblaidd iddo ond mae e hefyd yn sianelu’r traddodiad Affro-Americanaidd a’r syniad o ‘dystiolaethu’, fel petai, bearing witness. Fe ddefnyddiais i ‘Witness’ fel teitl ar gyfer pennod gynta’r prosiect a chadw Cwmwl Tystion wedi hynny, er mwyn ‘tystiolaethu’ agweddau pellach ar y profiad Cymreig, y da a’r drwg.

Owen Martell
Mwy
William Mathias wrth Bont Menai, tua 1981.  Roedd yn byw ym Mhorthaethwy.
Cerdd

Cofio athrylith William Mathias

Mae gennyf atgof byw o fod yng Ngŵyl Biwmares 1986 – yn troi tudalennau wrth y piano i William Mathias mewn darn newydd o’i eiddo. Y flwyddyn honno oedd y tro cyntaf i’r ŵyl gerddorol gael ei chynnal a da yw gallu adrodd ei bod yn parhau ac yn mynd o nerth i nerth. Y mis hwn bydd yr ŵyl yn dathlu’r ffaith ei bod yn 90 mlynedd ers i Mathias gael ei eni yn 1934 gan nodi hefyd ei farw annhymig yn 1992. Er ei fod yn rhedeg ei ŵyl ei hun yn Llanelwy er 1972 roedd y cyfansoddwr yn hynod awyddus i helpu Anthony Hose wrth iddo greu gŵyl newydd ychydig filltiroedd yn unig ar hyd y ffordd o gartref Mathias ym Mhorthaethwy. Ac i gyd-redeg gyda’r ŵyl eleni mae arddangosfa arbennig wedi’i threfnu gan Rhiannon Mathias i’w gweld yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor lle bu ei thad yn Athro Cerdd rhwng 1970 ac 1987.

Geraint Lewis
Mwy
Llyfr Du Caerfyrddin
Llên

Ar drywydd beddau’r arwyr

Mae gen i obsesiwn ers hanner canrif, sef Englynion y Beddau sydd i’w cael yn Llyfr Du Caerfyrddin (13g.). Yn wahanol i’r ‘englynion bedd’ a welwch mewn mynwent heddiw, mae’r englynion canoloesol yn enwi arwyr sydd wedi’u claddu yma ac acw mewn tir agored, weithiau ger henebion sydd yn dyddio o Oes y Cerrig. Mae ambell arwr yn ffigur hanesyddol go-iawn, o’r Oesoedd Tywyll, ond mae llawer mwy ohonynt yn arwyr chwedlonol, gan gynnwys rhai o gymeriadau’r Mabinogi.

Ar wahân i gyfres y Llyfr Du, fe geir hefyd gyfres arall o’r englynion hyn mewn llawysgrifau diweddar sy’n deillio o lawysgrif goll a gopïwyd gan William Salesbury yn y 16g. Ffrwyth y 11g.-12g. a dechrau’r 13g. yw’r corff hwn o ganu ac mae’n tystio i’r chwilfrydedd a grëwyd yn y meddwl dynol drwy’r canrifoedd gan feini a charneddau cynhanesyddol.

Patrick Sims-Williams
Mwy
Parus minor - titw Siapan
Gwyddoniaeth

Ar eich ôl chi

Roedd fy nhad yn ddyn ei oes, o leiaf lle’r oedd disgwyliadau ymddygiad cyhoeddus gŵr a gwragedd yn y cwestiwn. Cerdded ar y tu allan i’r palmant, cario eu cesys ar wyliau ac agor drysau ar eu cyfer, er enghraifft. Bu farw dros ugain mlynedd yn ôl. Wn i ddim sut y buasai’n ymdopi â mores yr oes bresennol. Meddyliais amdano, felly, wrth ddarllen erthygl yn Current Biology ddiwedd Mawrth. Ei theitl oedd ‘The “after you” gesture in a bird’, gwaith dau wyddonydd o Siapan, Gwlad Moesgarwch. Bu Toshitaka Suzuki a Norimasa Sugita, o Brifysgol Tokyo, yn astudio ymddygiad Titw Siapan. Fel ein titwod ni wrth imi ysgrifennu, mae’r rhain yn nythu mewn tyllau mewn coed (neu flychau nythu) ac iddynt fynedfa fechan.

Deri Tomos
Mwy
Rhai o aelodau cangen Merched y Wawr Dyffryn Ceiriog ar ymweliad â Sycharth, Gorffennaf 2022
Colofnydd

Heb Ferched (ymroddgar), heb Wawr

Mae fy nwy flynedd (a’m hail stint) fel swyddog cangen Dyffryn Ceiriog o Ferched y Wawr ar fin dod i ben ym mis Mehefin, a fedra i ddim smalio na fydd hynny’n rhyddhad.

Nid ’mod arna’i eisiau troi rhywun yn erbyn cymryd y swydd – i’r gwrthwyneb – ond fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi ymgymryd â swydd ysgrifennydd unrhyw fudiad, hon ydi’r un sy’n golygu’r mwyaf o waith fel arfer. Does ryfedd felly mai dyma’r swydd anoddaf i’w llenwi bob blwyddyn. Mae’n wir fod y trysorydd wedi dweud y byddai hi’n fodlon ffeirio petai rhywun yn bod yn drysorydd yn ei lle hi, ond hyd yn hyn does neb wedi dod i’r adwy i wneud y swydd honno chwaith. Ac er i’r swyddogion presennol erfyn am rywun i’w holynu a rhybuddio y bydd yn rhaid dirwyn y gangen i ben os na fydd unrhyw un yn gwirfoddoli, y cyfan a geir ydi tawelwch llethol a rhesi o lygaid gwydrog yn rhythu arnom fel defaid.

Elin Llwyd Morgan
Mwy
Gareth 'Parc'
Ysgrif Goffa

Cofio Gareth ‘Parc’

Ym Mehefin 1982 roedd Rhyfel y Falklands yn ei anterth a thon o Brydeindod neo-ymerodraethol yn sgubo drwy’r wlad. Ynghanol yr hysteria hwn, ar 2 Mehefin, dechreuodd Gareth Llwyd Dafydd, myfyriwr yng Ngholeg Harlech, ar ympryd dros hawliau iaith yn y sefydliad.

Yr ysgogiad oedd penodi D.G. Henderson, gŵr di-Gymraeg o gyffiniau Manceinion, yn Gofrestrydd. Hyd nes y gwyrdroid y penodiad, ymdynghedodd Gareth i barhau hyd eithaf ei allu â’i ympryd. Nawddoglyd oedd ymateb dechreuol awdurdodau’r Coleg. Ond wrth i ddeiseb o blaid yr ymprydiwr gael ei llofnodi ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhwllheli gan rai megis Dafydd Wigley AS, Geraint Howells AS ac I.B. Griffith, ac yn sgil ymyrraeth yr AS lleol Dafydd Elis-Thomas, roedd y Coleg i’w weld yn colli’r frwydr gysylltiadau cyhoeddus yn llwyr. Ar ôl 17 diwrnod, daeth yr ympryd i ben wedi i Mr Henderson a Joe England, Warden y Coleg, ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn dilyn addewid y byddai’r sefydliad o hynny allan yn ystyried y Gymraeg yn gymhwyster proffesiynol anhepgor wrth benodi i swyddi.

Peredur Lynch
Mwy
Rishi Sunak ar ymweliad â Llu’r Ffiniau ger Dover
Darllen am ddim

‘Pleidleisio negyddol’ a’i ganlyniadau

Daw arweinydd a phlaid wahanol i rym yn San Steffan cyn diwedd y flwyddyn ond nid yw’r newid hwnnw’n codi dim ar galon ein colofnydd. Yn wir, mae’n darogan parhad nifer o’r problemau sy’n llethu’r wlad ar hyn o bryd.

Mae weithiau’n anodd gwybod p’un ai i chwerthin neu grïo wrth wylio llywodraeth Geidwadol Rishi Sunak yn baglu tuag at ei ffawd anochel yn yr etholiad cyffredinol sydd ar ddyfod.

Ar y naill law, mae rhyw fath o bleser (maleisus, bid siŵr) i’w gael o weld ymdrechion dirifedi tîm Sunak i ail-lansio ei brifweinidogaeth yn profi’n gwbl seithug. Dyma griw sydd, fel Sunak ei hunan, wedi cael magwraeth freintiedig gan gynnwys addysg ddrudfawr a’u galluogodd i gamu’n syth i rengoedd y dosbarth llywodraethol a hynny ar sail rhwydweithiau ysgol a choleg rhagor na thalent neilltuol. Dyma griw sy’n parhau i fwynhau cefnogaeth groch y wasg Geidwadol neu ‘the party in the media’ fel y’i gelwir gan yr ysgolhaig Tim Bale. Eto i gyd, dyma griw sy’n parhau’n analluog i berswadio’r etholwyr na ddylid gorfodi Sunak i hel ei bac o Downing Street ar y cyfle cyntaf. Er pob mantais a phob braint, nid oes dim y maent yn ei wneud yn tycio. Trist iawn, feri sad.

Richard Wyn Jones

Cip ar weddill rhifyn Mai

Etifeddiaeth ar werth? – Dafydd Iwan
Cysgod y Cremlin dros Frwsel – Mared Gwyn
Gwaddol Mark Drakeford i’w olynydd – Dafydd Fôn Williams
Wrecsam - fydd hi wastad yn heulog? – Nic Parry
Hen glasur yn Theatr yr Abbey – Robat Trefor
Sownd wrth y ffôn – Beca Brown
Teyrnged i Zonia Bowen – Beryl Vaughan

Mwy