Dyfrig Jones
Trwy sôn am yr ‘hawl’ i siarad Cymraeg, mae’r mudiad cenedlaethol mewn perygl o anghofio beth yw gwerth ein hawliau dynol sylfaenol.
Dyfrig Jones
Trwy sôn am yr ‘hawl’ i siarad Cymraeg, mae’r mudiad cenedlaethol mewn perygl o anghofio beth yw gwerth ein hawliau dynol sylfaenol.
John Davies
Beth petai Cymru wedi dweud ‘Ie’ yn 1979?
Ar 26 Chwefror 1979, dridiau cyn cynnal y refferendwm ar ddatganoli, cyhoeddodd y Western Mail lythyr gan Saunders Lewis; ac yntau’n 86 oed dyna oedd ei ymyriad olaf yng ngwleidyddiaeth Cymru. O gofio ei sylwadau sarhaus yn y 1950au ynglyn â’r ymdrechion i sicrhau ymreolaeth trwy ddeiseb, o’r braidd iddo fod yn frwd ynglyn â chynulliad a gynigwyd gan lywodraeth Lafur. Ceir yng nghofiant Robin Chapman awgrym mai gweithred groes graen i S.L. oedd llunio’r llythyr. Ond mae ei gynnwys yn hynod ddiddorol.
Alun Ffred Jones
‘Pan fydda I’n codi yn y bore, mi fydda i’n mynd draw at y ddes
‘Ambell bwl o chwerthin...’
Cofio Wil Sam
Richard Wyn Jones
Mae ymchwil newydd herfeiddiol yn awgrymu mai dinistr a gwae sy’n aros Llafur yng Nghymru pan ddaw’r etholiad cyffredinol nesaf. Ond pwy fydd yn disodli Llafur? Mae’r ateb yn syfrdanol...
Beca Brown
Mae o wedi gwisgo lifrai Nazi i barti gwisg ffansi, wedi cyfeirio at ei fêt yn y fyddin fel ‘Paki’, ac mae’r Tywysog Harry mewn dwr poeth unwaith yn rhagor am ddweud wrth ddigrifwr ‘stand-up’ nad ydi o’n swnio fel ‘a black chap’.
Daw hyn oll yn dynn ar sodlau ‘Gollygate’ wrth gwrs, lle y collodd Carol Thatcher ei swydd yn cyflwyno The One Show am iddi beidio ag ymddiheuro am gymharu chwaraewr tennis croenddu â’r ddoli a fu’n symbol anghysurus ers cyhyd o orthrwm y caethweision. Bu anghytuno am union natur yr hyn a ddywedodd hi – ai dweud ei fod yn debyg i Gollywog ynteu ei fod o’n Gollywog wnaeth hi? A bu llawer o drafod ar yr amgylchiadau yr oedd hi ynddyn nhw pan wnaeth hi’r gymhareb, os mai dyna oedd o – ydi Ystafell Werdd y BBC byth yn medru bod yn ‘breifat’? A bu dadlau chwyrn am y ‘PC brigade’, a’r dybiaeth ei fod wedi mynd dros ben llestri.
Chris Cope
Efallai nad ydych chi wedi sylwi eto ar gwlt newydd a ddaeth i’r amlwg yng Nghymru yn ddiweddar, sef Y Bydiaid. Nhw yw’r Cymry ffyddlon sy’n credu y bydd Dyddiol Cyf yn eu harwain i Wlad yr Addewid lle ceir papur newydd dyddiol Cymraeg.
Gruffydd Aled Williams
Newid parhaus fu hanes addysg brifysgol yn y cyfnod diweddar. Yma, codir rhai cwestiynau sylfaenol ynghylch y chwyldro a fu gan un sydd wedi ymddeol yn ddiweddar fel Athro’r Gymraeg yn Aberystwyth.