Heb gael gwadd i’r un cinio Gwyl Ddewi? Na phryderwch. ‘Ar Blât’ i chi y mis hwn y mae nid yn unig rysáit Cawl Cennin amgen ond gwledd o ddarllen amgen hefyd… Richard Wyn Jones a Vaughan Hughes ar refferendwm 3 Mawrth… Simon Brooks ac ‘agenda gudd’ y Cyfrifiad… Elin Llwyd Morgan a seicoleg enwau mewn cyplau… Will Patterson ac arwyr alltud pêl-droed yr Alban… Cerddoriaeth Steve Eaves ac Iwan Llewelyn-Jones… Ac i olchi’r cyfan i lawr, cwrw o’r Oes Efydd – hanes darganfyddiadau rhyfeddol Porth Neigwl.
Aled Pickard
Y llynedd treuliodd yr awdur hanner blwyddyn yn Ne Affrica, yn gweithio ar ran Cymorth Cristnogol yn Cape Town gyda phlant sy’n gorfod byw gydag effeithiau HIV. Bu’n brofiad dirdynnol ond calonogol yr un pryd.