Yn y rhifyn Gwyl Dewi hwn, hanner canrif ers darlledu darlith Saunders Lewis Tynged yr Iaith, addas bod y Gymraeg a Chymreictod yn bwnc llosg mewn sawl erthygl. Mae’r awdur a’r newyddiadurwr Hywel Williams yn honni mai ‘ffantasi wrth-fodern’ yw siarad am gymunedau naturiol Gymraeg, a Richard Wyn Jones yn dweud bod angen mudiad iaith newydd. Yn ei gyfweliad cyntaf gyda Barn mae Ian Jones, pennaeth newydd S4C, yn sôn am yr her sydd o’i flaen ac am ei orffennol – gorffennol sy’n cynnwys y Trwynau Coch, mam-gu ddylanwadol ac esboniad ar y ffugenw ‘Tish’. Darllenwch farn ein colofnydd teledu newydd, Dafydd Fôn Williams, am arlwy diweddaraf y Sianel, a myfyrdod Dafydd ab Iago ar dewdra diarhebol y Cymry. Y tu hwnt i Gymru fach a’i phroblemau, mae Bethan Kilfoil yn trafod ymatebion pobl Iwerddon a Groeg i’w hargyfyngau economaidd a Luned Aaron yn disgrifio ymweliad â chartref plant yn un o ardaloedd tlotaf India. Hyn a llawer mwy ym misolyn gorau’r wasg Gymraeg.
Geraint Lewis
Cyfansoddwraig rhai o ganeuon mwyaf adnabyddus yr iaith Gymraeg.
Un o Ddolgellau oedd Dilys Elwyn-Edwards. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Dr Williams i Ferched yn y dref gan ddychwelyd i ddysgu yno am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn dilyn gyrfa ddisglair yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd.
Fel y profodd Grace Williams genhedlaeth ynghynt, diflas a di-fflach oedd unrhyw wersi cyfansoddi yng Nghaerdydd ond wrth ganu carol gyfrin Herbert Howells Here is the Little Door fel aelod o gôr, cafodd Dilys dröedigaeth gerddorol a oedd i fynd â hi ar ôl y rhyfel, ar ysgoloriaeth, at Howells ei hun yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Ac yntau’n un o brif athrawon cyfansoddi ei gyfnod, Howells oedd y mentor perffaith iddi.