Sut fyddwch chi’n croesawu’r gwanwyn? Gallech wneud yn waeth na mynd allan i brynu copi o’r rhifyn diweddaraf o Barn. Ymhlith yr erthyglau treiddgar arferol, mae gennym sawl un yn ymateb i ystadegau’r Cyfrifiad am y Gymraeg – gan Robat Trefor a Dafydd ab Iago, yn ogystal â darn Beca Brown, sydd ar y we. Eto’n berthnasol i ragolygon yr iaith, pam y mae papur gwyn Llywodraeth Cymru am fil datblygu cynaliadwy wedi dod dan lach rhai ymgyrchwyr? Dyna gwestiwn Emyr Lewis. A chwestiwn hefyd sydd gan Andrew Misell wrth droi ei olygon at Ewrop – ai peth da o angenrheidrwydd yw Ewrogarwch cynifer o genedlaetholwyr Cymreig o Saunders ymlaen? Mae cwestiwn arall eto wrth wraidd colofn Gareth Miles y tro hwn – pam y mae capeli Cymraeg heddiw mor ddiflas? Ac os nad yw hynny’n ddigon o gwestiynau i chi beth am roi cynnig ar ein Cwis Gwyl Ddewi, a chael siawns i ennill pecyn gwerth chweil o lyfrau amrywiol.
Chris Cope
Pa awdur Cymraeg a ysgrifennodd ysgrif nodedig am feic modur? T. H. Parry-Williams, tybed? Ni chofiaf. Mae llenorion Cymraeg yn weddol anhysbys i Google ac rydw i’n rhy ddiog i fentro allan i’r llyfrgell. Ond ta beth, ysgrifennodd rhywun, rywbryd, ysgrif am feic modur a bu’n rhaid imi ei darllen yn y brifysgol.