Mawrth 2014

Oes, mae rhifyn cyfoethog arall newydd ddod o'r wasg. Ymhlith y pynciau trafod y tro hwn y mae "ffars" ymdriniaeth Llywodraeth Cymru â thendr cyfieithu mawr (Huw Prys Jones), "diwylliant marwolaeth" Gwlad Belg (Dafydd ab Iago), rhagrith rhai o'r bobl fu'n galaru'n gyhoeddus ar ôl Mandela (Gareth Miles) a ffermydd rhyfeddol y dyfodol (Deri Tomos). Darllenwch hefyd am hoff gaffi Lowri Haf Cooke a hoff winoedd Rioja Shôn Williams, heb sôn am y Gwyddel mewn ffrog sydd, yn ôl Bethan Kilfoil, wedi plannu ei stileto yn ystlys yr hen Iwerddon.

    BARN DIGIDOL    

Mae Barn bellach ar gael yn ddigidol yn ogystal ag mewn print, a hynny o fewn Ap Cylchgronau Cymru. Ei bris yw £3.99. Bydd pris y cylchgrawn print hefyd yn codi i £3.99 ym mis Ebrill ond ar hyn o bryd mae cyfle am fargen gan y gallwch danysgrifio i'r cylchgrawn print am yr hen bris. Gallwch wneud hyn ar y wefan hon neu drwy lenwi'r ffurflen sydd yng nghefn y cylchgrawn.

Dinistrio’r Undeb er Mwyn Achub yr Undeb

Richard Wyn Jones

A hithau’n flwyddyn y refferendwm annibyniaeth, mae gwleidyddion y pleidiau unoliaethol yn Lloegr wedi bod yn dyrchafu eu llygaid – a’u lleisiau – i’r Alban. Ond ai rhwystr yn hytrach na chymorth i achos Prydeindod fydd ymyrraeth Llundain yn y pen draw? Ai unoliaethwyr Lloegr fydd yn chwalu’r Undeb?

Ganol mis Chwefror, yn sydyn reit, fe ffrwydrodd ymgyrch y refferendwm annibyniaeth. Hyd hynny bu’r ymgyrch yn gymysgedd rhyfedd o drafodaethau cyhoeddus digon gwâr mewn neuaddau a darlithfeydd hyd a lled y wlad. Yn ogystal bu paratoi dyfal y tu ôl i’r llenni ar gyfer yr ymgyrchu ‘go iawn’ – paratoi gan yr ochr Ie, o leiaf. Nad oes unrhyw siâp ar yr ymgyrch Na ar lawr gwlad. Ond yn ddisymwth, ganol y mis, fe ddechreuwyd tanio’r gynnau mawrion.

Ar y naill law, gwthiwyd Big Bertha’r Unoliaethwyr – George Osborne – o’i seidin yn y Trysorlys a’i anelu i gyfeiriad y ffosydd Cenedlaetholgar. Clec! Chaiff Alban annibynnol ddim rhannu’r bunt! Yn atseiniau’r glec fawr honno, taniwyd ergydion pellach gan Ed Balls a Danny Alexander: ‘Dan ni’n cytuno hefo George!’ Yna daeth ergyd o fagnel Ewropeaidd y Cadfridog Barroso a awgrymai y gallai’r Alban annibynnol – fel Cosofo – gael ei chau allan o’r Undeb Ewropeaidd fel cosb am ei hyfdra’n herio’r drefn diriogaethol yn Ewrop.

Mewn ymateb, galwyd ar Alex Salmond – capten dreadnought yr SNP – i danio ’nôl: ‘Dach chi’n bwlio a chwythu bygythion, bobl, a bydd yn rhaid i chi ddod at eich coed wedi i ni fod yn fuddugol.’ Ac yn y blaen, ac yn y blaen...

Richard Wyn Jones
Mwy

Mae Lle i Fratiaith ar y We

Beca Brown

Mae iaith gwefannau cymdeithasol yn destun llosg cyson ymhlith caredigion yr iaith Saesneg, wrth i eiriau gael eu cywasgu a’u ’stumio i siwtio brys y neges destun, a gofod cyfyngedig byd y Trydar. Mae hi’n ffwl stop ar nifer o elfennau gramadegol hefyd, gyda llawer gormod o !!!!!! ac ychydig iawn o unrhyw beth arall.
Mae’r ebychnod yn cael y fath lwyfan yn y byd digidol nes ei fod o mewn peryg o golli’i ebwch.

‘Wedi dyweddïo!!!!!’

‘Bîns ar dost di ffefryn fi!!!!’

‘Taid wedi marw ddoe!!!! Mor drist!!!!!’

‘R.I.P!!!!!!’

Beth bynnag fo’r cyd-destun, does yr un cyfraniad ar na Gweplyfr nac Instagram yn gyflawn heb goedwig o ebychnodau, er mwyn dangos eich bod chi wir yn ei feddwl o!!! Be bynnag ydi o!!!

Ond rhyw gyfathrebu ffwrdd-â-hi ar y cyfan ydi’r cyfraniadau a welwch chi ar y gwefannau yma, ac mae’r iaith anffurfiol a welir yno yn adlewyrchu hynny. Mae ’na sawl math o iaith anffurfiol wrth gwrs – ac mae rhai mathau yn fwy bratiog na’i gilydd.

Beca Brown
Mwy

Archgarchar Wrecsam – Carchar ar Gyfer Lloegr

Elfyn Llwyd

Yn wleidydd a bargyfreithiwr, mae’r awdur yn dadlau na fydd codi carchar mwyaf Prydain yn Wrecsam yn gwneud dim lles o gwbl i garcharorion Gogledd Cymru ac na fydd yr economi leol yn elwa nemor ddim o ddatblygiad mor sylweddol. Fydd o ddim ychwaith o les i garcharorion yn gyffredinol.

Am flynyddoedd lawer, rwyf wedi dadlau o blaid carchar i wasanaethu gogledd a chanolbarth Cymru. Ond fel sydd wedi ei amlinellu gan sawl arbenigwr, nid yw carchar enfawr arfaethedig Wrecsam wedi ei ddylunio gydag anghenion y boblogaeth leol mewn golwg. Bwriadwyd ef yn hytrach i ateb anghenion gogledd-orllewin Lloegr. Ac i arbed arian.

Ar ben hynny, mae’r mwyafrif helaeth o arbenigwyr yn y maes hwn yn cytuno nad ydi carchardai enfawr o fudd i garcharorion yn gyffredinol, heb sôn am leoliad y carchar. Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ei hun wedi derbyn hynny mewn adroddiad diweddar. Felly hefyd y Prif Arolygydd Carchardai.

Bydd y carchar arfaethedig yn Wrecsam yn gweithredu’n bennaf fel carchar Categori C ar gyfer oedolion gwrywaidd. Eithrir, felly, holl garcharorion gwrywaidd gogledd a chanolbarth Cymru sy’n cael eu dal fel carcharorion Categori A a B ar hyn o bryd, heb sôn am fenywod a phobl ifanc. Amcangyfrifir y byddai nifer y carcharorion Cymreig yn y ddalfa yn Wrecsam yn nes at 500. Golyga hynny y byddai bron i dri chwarter poblogaeth y carchar yn dod o ogledd-orllewin Lloegr.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei hun, hyd yn oed, wedi awgrymu y byddai agor safle yn Wrecsam yn cyd-ddigwydd â chau hen safleoedd carchar yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Elfyn Llwyd
Mwy

S4C yn Cofio Iwan Llwyd – Prifardd Roc a Rôl

Michael Bayley Hughes

Ar 9 Mawrth teledir rhaglen awr am y bardd, y gitarydd a’r teithiwr fu farw ym mis Mai 2010 yn 52 oed. Yma mae lluniwr y rhaglen, Rhwng gwên nos Sadwrn a gwg y Sul, yn trafod ei ymwneud creadigol ag Iwan dros gyfnod o ddau ddegawd.

Nid bardd cadair freichiau oedd Iwan Llwyd. Yng ngeiriau Myrddin ap Dafydd, roedd Iwan yn ‘byw ei gerddi’ ac yn tynnu ar brofiadau ei deithiau yng Nghymru a thu hwnt. Trwy’r teithiau hynny llwyddodd yn fwy na neb i gario’r ddraig farddol i lefydd na wyddent cynt am fodolaeth Cymru heb sôn am yr iaith Gymraeg. Er ei fod o wedi ei drwytho yn ein traddodiad barddol, wedi sgwennu traethawd MA swmpus ar hanes noddwyr y beirdd yn yr oesoedd canol, ac wedi ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd o hefyd yn hyddysg yn y diwylliant roc Eingl Americanaidd.

Roedd ei gynfas yn eang. Mae ei gerdd ‘Pedair awr ar hugain o Tulsa’, er enghraifft, wedi ei hysbrydoli gan atgofion amdano’n gwrando ar gân Gene Pitney a oedd yn y siartiau pan oedd Iwan yn tyfu i fyny yn Nyffryn Conwy yn y Chwedegau. Mae’r gerdd yn pwysleisio pwysigrwydd dal gafael mewn atgofion sydd, fel cysgodion ar ymylon y cof, yn ‘ffurfiau aneglur sy’n symud ac yn sibrwd fel darluniau dyfrlliw’r plant yn y glaw’. Yn ein rhaglen mae yna ffilm o Iwan yn darllen y gerdd honno i gynulleidfa yn Philadelphia yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf. Ar adegau felly byddai’n darllen ei gerddi yn y Gymraeg ac mewn cyfieithiad Saesneg. Mae gen i gof i’w gerdd ‘Safeways’, am yr archfarchnad ym Mangor, gael derbyniad brwdfrydig hefyd yr un noson.

Mae’r ddwy gerdd honno’n ymddangos yn ei gyfrol Dan Anesthetig, wedi ei darlunio gan Iwan Bala. Dyma’r llyfr a’m denodd i at waith Iwan yn y lle cyntaf a’m harwain i gydweithio efo fo ar dair cyfres deledu oedd yn cyfuno teithio efo barddoniaeth. Roedd Iwan yn credu’n gryf mewn asio barddoniaeth wrth gyfryngau eraill fel ffotograffiaeth neu arlunio ac felly roedd y syniad o blethu ffilm efo’i gerddi’n apelio ato.

Michael Bayley Hughes
Mwy

Cwis Gwyl Ddewi

Gwobr: tocynnau ar gyfer 2 atyniad Cymreig

Cyfle i ennill tocynnau mynediad ar gyfer teulu i ddau o brif atyniadau Cymru, sef GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU yn Sir Gaerfyrddin a PHORTMEIRION yng Ngwynedd (gwerth dros £40 i gyd).
Mae'r Cwis ar dud. 38 o'r rhifyn cyfredol (Barn 614, Mawrth 2014), ac mae'r atebion i bob un o’r cwestiynau i’w cael ar dudalennau eraill yn y rhifyn hwnnw, dim ond i chi ddarllen yn ofalus.

Anfonwch eich atebion naill ai i Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin, SA31 3EQ gyda’ch enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn – neu yr un modd at swyddfa@cylchgrawnbarn.com , erbyn Dydd Llun 31 Mawrth. Bydd yr atebion, ac enw’r enillydd, yn rhifyn Mai, ond ceisiwn gael y gwobrau allan i’r enillydd mewn pryd ar gyfer gwyliau’r Pasg.

Mwy

Dewi, Tad Dirwest

Elin Llwyd Morgan

Llwyrymwrthodwr a yfai ddim ond dwr oedd Dewi Sant, neu ‘Dewi Ddyfrwr’, yn ôl yr hanes.

O’r hyn a wn am yr hanes hwnnw, rhaid cyfaddef bod ein nawddsant yn swnio’n greadur go boring i mi, a’r peth mwyaf diddorol a ddysgais amdano oedd iddo gael ei fedyddio gan sant o’r enw Elvis (o Munster, nid o Memphis).

Yr unig seintiau i greu argraff arna’i erioed oedd dwy Ffrances – Jeanne D’Arc, y cadlywydd milwrol a losgwyd wrth y stanc; a Bernadette, merch i felinydd o’r 19g. a lwyddodd i droi tref fach Lourdes yn bererinfa fydenwog yn sgil ei gweledigaethau ar lan afon o’r Forwyn Fair. Y naill yn action woman ganoloesol a’r llall wedi dal fy nychymyg yn blentyn drwy gyfrwng y ffilm amdani, The Song of Bernadette, gan fy arwain i a’m ffrind Janice ar sawl pererindod at lan Afon Seilo ym Mhenrhyn-coch yn y gobaith o weld drychiolaethau o’r fath yno.

Ond nid cyfrinydd mohona’i, na dirwestrwaig, ac ni’m temtiwyd eleni i ymuno â’r giwed sy’n neidio ar wagan flynyddol Ionawr Sych.

Elin Llwyd Morgan
Mwy