Roedd y rhifyn hwn o Barn ar fin mynd i’r wasg pan ddaeth y newydd am farwolaeth Dr John Davies, neu ‘John Bwlch-llan’. Trwy ei alw wrth yr enw hwnnw dwi’n llawn sylweddoli nad oedd John ei hun yn or-hoff o gael ei adnabod felly (er mai dyna fyddem ni i gyd yn ei alw). Yn sicr nid unrhyw fath o gondemniad ar bentref Bwlch-llan oedd hynny eithr yn hytrach ei falchder eithriadol yn ei wreiddiau yn Nhreorci’r maes glo. Dyna – ynghyd â Bryn-mawr ei wraig alluog a hynaws, Janet – wir galon y Gymru fodern iddo fo.
Mawrth 2015 / Rhifyn 626

Mewn Ffydd a Phaent
Mae arddangosfa sylweddol o gelfyddyd gyfoes wedi’i hysbrydoli gan y ffydd Gristnogol i’w gweld ar ddau safle yn Wrecsam ar hyn o bryd. Dyma ymateb gweinidog a diwinydd i’r gwaith.
Cychwynnwyd y casgliad hwn o weithiau celf yn y 1960au cynnar gan leygwr, Dr John Morel Gibbs, o Benarth, gyda chefnogaeth ei weinidog ar y pryd, y Parch Douglas Wollen. Credai’r ddau fod mawr angen gwella ansawdd a golwg addoldai a gwneud mwy o ddefnydd o gelfyddyd weledol. O fewn ychydig flynyddoedd roedd cryn nifer o ddarluniau wedi eu casglu, a rhwng 1963 ac 1965 aeth arddangosfa ohonynt ar daith i fwy na deg ar hugain o ganolfannau ac amcangyfrifwyd fod mwy na 107,000 o bobl wedi ei gweld. Bellach mae’r casgliad wedi tyfu i gynnwys hanner cant a mwy o ddarluniau a threfnir arddangosfeydd yn gyson mewn capeli, eglwysi, ysgolion, colegau, ac orielau ar hyd a lled y wlad.

Tutu a’n teulu ni
Tua chanol Ionawr cyrhaeddodd llythyr i Joel, ac arno stamp post ‘Capemail South Africa’. Rhag ofn iddo rwygo’r amlen yn ei ffordd esgeulus arferol – a hefyd, rhaid cyfaddef, am i chwilfrydedd fynd yn drech na mi – mi fûm i mor hy â’i hagor fy hun yn gyntaf.
Ynddi yr oedd llythyr gan Desmond Tutu, ynghyd â ffotograff ohono sydd erbyn hyn wedi’i fframio yn llofft Joel, gan ymuno â llun arall a ysgogodd ddiddordeb fy mab ynddo yn y lle cyntaf. Llun ydi hwnnw o Tutu a fy mam, a dynnwyd pan ddaeth y cyn-Archesgob i Gaerdydd i dderbyn doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1998.

Mwy Nag Adeilad: Cofio Pafiliwn Corwen
Mae un o ganolfannau diwylliannol pwysicaf gogledd Cymru newydd gael ei dymchwel. Mae i Bafiliwn Corwen le pwysig yng nghof a chalonnau nifer o bobl, ac yma mae rhai ohonynt yn rhannu eu hatgofion, yn eu plith GLYN HUGHES perchennog siop leol, MANON EASTER LEWIS arweinydd Côr Merched Edeyrnion, GLYN TOMOS a arferai drefnu Nosweithiau Gwobrwyo Sgrech, a’r perfformiwr GERAINT JARMAN.

Clymbleidio neu Gynnal Breichiau – bydd pris i’w dalu ond pa bris?
Fe all pethau newid yn sylfaenol dros yr ychydig wythnosau sy’n weddill cyn yr etholiad cyffredinol, rhybuddia’r awdur. Gall sgandal, cyflafan neu ryfel daflu popeth oddi ar ei echel. Ond ar hyn o bryd nid oes enillydd amlwg. Mewn sefyllfa o’r fath gallai dwy blaid Gymreig fod yn ddylanwadol tu hwnt.
Wrth graffu ar arolwg barn ar ôl arolwg barn sy’n dangos fod etholwyr yr un mor llugoer tuag at Lafur ag y maen nhw tuag at y Torïaid, mae’n anodd credu y bydd gan y naill blaid neu’r llall fwyafrif drannoeth y bleidlais.

Cerdd: Colosws y Coliseum - Sgwrs gyda Gwyn Hughes Jones
Wrth iddo baratoi i berfformio yn y Coliseum yn Llundain cafodd y tenor o Lanbedr-goch egwyl i siarad â Barn am ei ran yn canu yn un o operâu mawr Wagner, ac am ei bryderon am ddyfodol cwmni opera Lloegr.