O’r diwedd, rhoddwyd ychydig friwsion i sianel ar ei chythlwng. Yn groes i’r disgwyl, nid yw llywodraeth David Cameron am fwrw ymlaen â’i chynllun i gyfrannu £1.7 miliwn yn llai at goffrau S4C erbyn 2020. £6.7 miliwn yn unig y mae Llywodraeth y DU yn ei gyfrannu at gostau’r Sianel erbyn hyn, 94% yn llai na’r £101 miliwn a gyfrannodd yn 2010.
Mawrth 2016 / Rhifyn 638

‘Problemau Prifysgol’ – nid drama Saunders ond trasiedi Llywodraeth Cymru
Yn ôl yr awdur ‘polisi ffioedd trychinebus’ Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am argyfwng enbyd prifysgolion Cymru.
Gallai wir; fe allai fod cymaint â hynny’n waeth. Petai’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi cael ei ffordd, gallai prifysgolion Cymru fod wedi colli dros £40 miliwn o’r cyllid y maent yn ei dderbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Bywyd ar ôl Helmand – Holi Meic Povey
Gyda drama ddiweddaraf MEIC POVEY ar fin mynd ar daith, cafodd Barn gyfle i holi’r awdur am gefndir gwaith sy’n ymwneud ag effeithiau hirdymor arswydus rhyfel
‘Dwi i fyny yma am ddau ddiwrnod yn mynd drwy’r ddrama efo’r actorion – fydda i’n mynd adra wedyn ac mi gâ’n nhw wneud fel fyd fynnan nhw efo hi!’. Siarad am ei ddrama newydd, Hogia Ni – Yma o Hyd, yr oedd Meic Povey.

Deddfau da i ddim
Deddfu er mwyn deddfu yn y gred gyfeiliornus bod unrhyw fath o ddeddf yn well na dim deddf o gwbl. Dyna gasgliad damniol gwleidydd a fu’n Aelod Cynulliad er 2003 ac yn weinidog yn llywodraeth Cymru’n Un.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gormod o ddeddfau ac mae amryw ohonyn nhw yn bethau digon tila. Yn ei hanfod dyna ddywedodd Prif Was Sifil Cymru, Syr Derek Jones, wrth Bwyllgor Cyllid y Cynulliad.

Lemonau a chrysau M&S – celfyddyd IWAN LEWIS
Mae digon i oglais y dychymyg yng nghreadigaethau Iwan Lewis, artist y mae ei waith i’w weld yn Llandudno ar hyn o bryd. Bu’n sôn wrth Barn am y dylanwadau arno, o’i fagwraeth ac o fyd celf ei hun.
‘Celf ydi ’mywyd i,’ medd Iwan Lewis, artist o Ddyffryn Nantlle sy’n byw ym Môn. Yn sicr mae wedi cael llawer o lwyddiant yn y maes.