Ers rhyw ddwy flynedd fu dim llawer o drafod am Israel a thiroedd y Palestiniaid. Gallwch fentro y bydd cryn newid wedi’r tri mis diwethaf. Nid oherwydd y bydd heddwch newydd na chymodloni, ond oherwydd fod urddo Donald Trump yn Arlywydd America wedi sbarduno gwleidyddion mwy eithafol Israel i fod yn fwy beiddgar.
Yn ddigon hyf, hyd yn oed, i ddechrau cynghori diplomyddion yr Unol Daleithiau y dylent symud eu llysgenhadaeth o Tel Aviv i Jerwsalem. Y Prif Weinidog Benjamin Netanyahu oedd y diwethaf i lefaru hynny. Gan mai llywodraeth glymbleidiol sy’n gyffredin yn Israel, mae ffraeo cyson rhwng gwleidyddion sydd i fod yn gydweithwyr...
Mawrth 2017 / Rhifyn 650

Israel a Thiroedd y Meddiant

Llafur, Lloegr a chyfyng-gyngor Unoliaethwyr Cymreig
Yn yr Alban, wedi etholiad cyffredinol 2015, sef etholiad a welodd y Blaid Lafur yn plymio i lefelau cefnogaeth is nag a welwyd er 1918, mae’r blaid honno ar ei gliniau. Yr unig gwestiynau sy’n werth eu gofyn am y Blaid Lafur Albanaidd dros y misoedd nesaf yw pa mor wael fydd ei chanlyniadau yn yr etholiadau lleol sy’n prysur ddynesu – gwael iawn ynteu cwbl drychinebus?... [Ond] y cwestiynau mawr a fydd yn meddiannu gwleidyddiaeth y wlad honno dros y blynyddoedd nesaf fydd y rhai cyfansoddiadol ynglŷn â pherthynas yr Alban â’r Deyrnas Gyfunol ar y naill law, a’r Undeb Ewropeaidd ar y llall...

Mab annwyl Màiri
Pan gerddodd Theresa May law yn llaw â Donald Trump i’w cynhadledd i’r wasg yn y Tŷ Gwyn, synnwyd llawer o bobol yr Alban pan gyfeiriodd Trump at ei fam fel Albanes o Stornoway ‘yn yr Alban go iawn’.
Nid un o Stornoway oedd ei fam, Mary Ann MacLeod, mewn gwirionedd ond o bentref Tong. Hwyliodd hi o Glasgow i Efrog Newydd yn 1930, ymgartrefu yno, ac ymgeisio’n llwyddiannus am ddinasyddiaeth Americanaidd.
Rhyfedd os nad gwyrdroëdig yw meddwl mai ar rethreg hyll a hiliol yn erbyn mewnfudwyr y cyrhaeddodd ei mab y Tŷ Gwyn. Dyw eironi rywsut ddim yn air digon cryf.
Croeso i America?
Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf mae yna 39.6 miliwn o Americanwyr o dras Wyddelig – saith gwaith mwy na phoblogaeth Iwerddon ei hun...
Golyga hyn fod peth wmbredd o fynd a dod rhwng Iwerddon ac America, bod miloedd o ymwelwyr yn dod yma o America bob blwyddyn, a bod gan bawb deulu rhywle yn America. Mae Gŵyl Sant Padrig yn cael ei dathlu’r un mor frwdfrydig mewn rhannau o UDA ag y mae yma. Mi ydw i’n cofio gweld yr afon yn Chicago yn llifo’n wyrdd ar ddydd Sant Padrig, ac adeiladau eiconig y ddinas wedi eu goleuo’n wyrdd i gyd...

CYFWELD SHANI RHYS JAMES
Y sobreiddiol a’r siriol
Roeddwn yn ffodus i fanteisio ar y cyfle i ymweld â Shani Rhys James yn ei chartref yn Llangadfan yn Nyffryn Banw, Maldwyn cyn i’w harddangosfa, I Paint Therefore I Am, agor yn Oriel Martin Tinney, Caerdydd (2 Mawrth hyd 1 Ebrill).
Dichon mai’r amgylchiadau ar y pryd oedd yn peri i lifddorau ei chof agor ac i’w sgwrs fyrlymu drwy’r pnawn – gan ddechrau gyda’i hanes teuluol, a hwnnw’n hanes sy’n greiddiol i’w gwaith fel artist. Un o Awstralia yw ei mam, meddai, a Chymro oedd ei thad, llawfeddyg offthalmig...

Sbaddu llywodraeth leol
22 cabinet sy’n rhedeg llywodraeth leol yng Nghymru nid 22 cyngor. Mae’r aelodau cyffredin yn cael rhoi eu barn, yn cael pwyso am newid, yn cael craffu ar benderfyniadau, a’u herio. Ond ychydig iawn o rym sydd gan y mwyafrif o gynghorwyr y meinciau cefn.
Mae’n beth chwithig iawn i genedlaetholwr orfod ei gyfaddef, ond dyw’r drefn ddatganoledig heb fod yn garedig iawn tuag at y cynghorau. Wrth i’n grym cenedlaethol dyfu, mae democratiaeth leol wedi crebachu yn arw... Pwrpas ein cynghorau – yn nhyb y Bae – ydi gweithredu polisïau sydd wedi eu llunio gan lywodraeth y Cynulliad... Ufuddhau, neu dderbyn cosb yw’r unig ddewis fel rheol.
Cip ar y rhifyn cyfredol
Yn ogystal â’r erthyglau a welir yma, mae John Stevenson yn trafod y cythrwfl yn Rwmania a’r bygythiad i NATO o du Trump, a Glyn O. Phillips yn gofyn beth fydd dyfodol y diwydiant niwclear ym Mhrydain ar ôl Brexit. Mae Gareth Jones-Evans yn cyfweld Rhys Iorwerth am ei lyfr newydd, Carl Morris yn sôn am her newydd i’r Gymraeg ym myd technoleg ddigidol a Beca Brown yn ystyried Melania Trump. Y mis hwn hefyd mae BARN yn croesawu colofnydd newydd sbon, Catrin Evans, o Abertawe – mynnwch eich copi i weld beth sydd ganddi hi, a sawl un arall, i’w ddweud.