6 Chwefror 1918: dyddiad pasio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn caniatáu i ddynion dros 21 oed a menywod dros 30 a oedd yn berchen eiddo bleidleisio; a dyddiad ddylai fod wedi ei serio ar galon pob menyw yn y Deyrnas Gyfunol. Bu hanes yr ymgyrchu am y bleidlais yn un o faterion mawr mis Chwefror a chaiff llu o ddigwyddiadau eu trefnu i ddathlu’r canmlwyddiant gydol y flwyddyn. Eto, cam yn unig oedd hwn wedi ymgyrchu hirfaith ers y 1860au ac ni chafodd menywod bleidlais gyfartal â dynion tan 1928.
Mawrth 2018 / Rhifyn 662
Cip ar weddill rhifyn Mawrth
Meddylfryd trefedigaethol adroddiad ar Amgueddfa Cymru – Alun Ffred Jones
Refferendwm arall ar erthylu – Bethan Kilfoil
Cyfle newydd i Dde Affrica? – John Stevenson
Y Rhws 1 Prestwick 0 – Will Patterson
Rhagflas o Sgythia, nofel olaf Gwynn ap Gwilym
Cofio John Albert Jones, un o ‘Dri Tryweryn’ – Owain Williams
Y pyliau poeth – Elin Llwyd Morgan
...A llawer mwy. Mynnwch eich copi nawr.

Problemau Plaid Cymru
Efallai mai fi sy’n wirion ond fe fyddaf wastad yn teimlo bod gan bob plaid wleidyddol ei phersonoliaeth ei hun. Mae eu hwyliau hefyd yn amrywio gan ddibynnu ar y rhagolygon gwleidyddol. A’r ffordd i ddod i ddeall y gwahanol bersonoliaethau hyn − ac i synhwyro eu hwyliau − yw trwy fynychu eu cynadleddau mawr. A dyna paham fy mod wrth fy modd yn cael y cyfle i siarad yn y gwahanol gyfarfodydd ymylol sy’n cael eu cynnal ar eu cyrion. Esgus perffaith i grwydro’r gwahanol stondinau, clustfeinio ar sgyrsiau yn y bar, a − gadewch i mi fod yn gwbl onest − busnesa’n gwbl ddigywilydd…

Telynor y telynorion
Cerddor y cerddorion, telynor y telynorion’ – dyna i chi Osian Ellis yng ngeiriau un o’i gyn-ddisgyblion enwocaf, Elinor Bennett. Ac yntau newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed mae’r telynor o fri rhyngwladol, a gaiff ei gydnabod fel un o gerddorion amlycaf yr 20g., yn sicr yn gallu edrych yn ôl ar yrfa hynod lewyrchus, amrywiol a dylanwadol.
Pnawn oer iawn ym mis Chwefror oedd hi pan alwais yng nghartref Osian ym Mhwllheli. Wrth gamu i’r ystafell ffrynt sy’n edrych allan dros y dref gwelais fod y cyfrifiadur ar waith a rhaglen gyfansoddi Sibelius ar agor, llyfrau cerddoriaeth ar y piano a rhyw deimlad yno o brysurdeb creadigol ond yr awyrgylch, er hynny, yn un hamddenol braf…

Osgoi’r hen ŵr gyda’r mwstás
Buasai rhywun yn disgwyl paent – a digon ohono, wrth gwrs – mewn arddangosfa’n dathlu canmlwyddiant geni Kyffin Williams. Ond nid ar y cynfas yn unig y mae’r paent.
Y ddelwedd gyntaf sy’n cyfarch ymwelydd â’r arddangosfa yn Oriel Môn yw llun anferth o’r arlunydd –ffotograff, nid hunanbortread (er bod y rheiny i’w gweld yma hefyd). Edrycha fel Rembrandt yn ei henaint, y ddelfryd o baentiwr, gyda’i ofarôl, ei balet, ei gynfas ar stand, a phopeth yn drwch o baent wedi ymgaledu a chremstio. Gwelwn y taclau paentio hyn drachefn: y gwrthrychau go iawn y tro hwn, wedi eu harddangos, megis cornel o’r stiwdio, i ni ryfeddu at eu goroesiad, a’r trwch o baent sydd drostynt. ‘Stomplyd’; dyna oedd sylw un plentyn yn y llyfr ymwelwyr…

Haelioni Llywodraeth Cymru tuag at gyfryngau Lloegr
Mewn oes o gyllidebau bychain a thoriadau, mae gennym le i ddiolch fod gan Lywodraeth Cymru gyllideb o £30 miliwn i hybu’r diwydiant. ‘Cyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau’ yw teitl swyddogol y gronfa. Fel mae’r enw’n ei awgrymu, nid cynllun ar gyfer mentrau yn yr iaith Gymraeg yn unig mohono. A does dim byd o gwbl yn bod ar hynny. Mae cynyrchiadau Saesneg gwerth chweil wedi cael eu creu yng Nghymru. Tydw i ddim yn sôn yn unig am bethau fel Dr Who, Casualty ac ati, sydd yn gynyrchiadau poblogaidd a llwyddiannus ond heb fawr o ddim i’w wneud â Chymru. Sôn ydw i’n hytrach am gynyrchiadau fel The Life & Times of David Lloyd George, Ennals Point a The District Nurse, ac yn fwy diweddar The Indian Doctor a Stella. Sylwch mai cynyrchiadau o’r gorffennol pell ydyn nhw, ar wahân i’r ddwy gyfres olaf. Mi fyddech yn meddwl, felly, y byddem ni’n croesawu’r gronfa o £30 miliwn a grybwyllais eisoes…

Radio Cymru 2 – croeso amodol
Mae Radio Cymru 2 yn ddatblygiad hanesyddol, ac mae’r syniad o gynnig dewis i wrandawyr yn un pwysig. Ond mae yna broblem ar y funud. Dim ond am ddwyawr y dydd, yn y bore, mae Radio Cymru 2 yn darlledu. Mae hyn yn cyfyngu’r orsaf yn aruthrol o’r cychwyn cyntaf, a dyna pam mai’r hyn sydd gennym yn y bôn yw cyflwynwyr profiadol a phoblogaidd yn cyflwyno sioeau tebyg iawn i’r rhai oedd ganddynt ar yr orsaf wreiddiol flynyddoedd yn ôl.
Ac er nad oes dim byd yn bod ar y cynnwys (heblaw am ormod o ganeuon Saesneg diangen), mae gwrando ar Caryl a Daf yn teimlo ychydig fel teithio’n ôl mewn amser neu wisgo hen bâr o esgidiau digon cyffyrddus. Nid yw’n brofiad newydd, cyffrous.
I Radio Cymru 2 lwyddo, credaf fod ehangu’r oriau yn hanfodol. Bydd cyfle wedyn gan yr orsaf i arbrofi gyda chynnwys a chyflwynwyr newydd a chreu ei hunaniaeth ei hun…