Fel llawer o rai eraill, roeddwn yn siomedig iawn o ddeall bod Gweinidog yr Iaith Gymraeg yn gollwng cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth newydd i ategu ein huchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.
Mae’r gweinidog yn dadlau y gellir gwneud llawer heb ddeddfwriaeth. Mae hi’n iawn. Gellir gwneud llawer. Ac, yn sicr, fel Comisiynydd Iaith newydd bydd Aled Roberts yn chwa o awyr iach mewn swydd nad yw wedi llwyddo i wneud llawer mwy hyd yma na chynyddu biwrocratiaeth ddiflas ar gyfer ymgyrchwyr, ond sydd bron yn gwbl amherthnasol i’r gweddill ohonom sy’n ceisio defnyddio’r iaith yn ein bywydau bob dydd.
Heb y ddeddfwriaeth hon, mae’n anodd gweld sut y gellir cyflawni targed y miliwn mewn unrhyw fodd. Nid yw’r cyfle i roi polisi iaith ar sylfeini newydd wedi ei golli. Ond mae wedi cael ei daflu o’r neilltu. Ac nid ymddengys i’r gweinidog ddeall hyn. Nid ymddengys ei bod yn llawn sylweddoli sut y bydd y camgymeriad hwn yn effeithio ar ei pholisi hi ei hun.
Pan gefais fy herio ynghylch yr angen am ddeddfwriaeth newydd gan Vaughan Roderick ar Raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedwyd bod gan Tesco arwyddion dwyieithog yn eu siopau. Mae’n wir. Mae ganddynt lot fawr o arwyddion o’r fath. Ond nid oes ganddynt unrhyw elfen o ddwyieithrwydd ar yr app lle mae llawer ohonom yn gwneud ein siopa. Nid oes ychwaith fanc â phresenoldeb dwyieithog ar-lein, nac unrhyw ffordd i archebu teithiau, nac app siopa ar-lein nac unrhyw app gwasanaethau y tu allan i’r sector cyhoeddus. Ac ni fydd bellach unrhyw ddeddfwriaeth yn sail i ddull statudol newydd o gyflwyno gwasanaethau sy’n cynyddol symud ar-lein. Yn fyr, mae gennym ddeddfwriaeth yr 20g. sy’n ceisio delio â heriau’r 21g. Roedd yn annigonol pan gafodd ei derbyn, a heddiw mae’n anobeithiol o amherthnasol i’n hanghenion yn y dyfodol.