Un o’r sawl Gareth Jones imi ddod yn ymwybodol ohonynt erioed – er ei fod cyn fy amser i – oedd y newyddiadurwr o’r Barri sy’n destun y ffilm Mr. Jones a ryddhawyd yn ddiweddar. Mae’r ffilm yn adrodd hanes hynod o bwysig a diddorol am Gymro sydd heb gael hanner digon o sylw am ddatgelu’r caswir am Holodomor yr Wcráin yn 1932–3.
Ystyr Holodomor ydi ‘lladd trwy newyn’, sef yr hyn a ddigwyddodd i filiynau o Wcraniaid o dan unbennaeth Stalin, ac a gyfleir yn gignoeth yn y ffilm gan y gyfarwyddwraig Bwylaidd Agnieszka Holland, gyda’r dawnus olygus James Norton yn y brif ran.
Mae’r hanes o ddiddordeb arbennig i mi gan imi ennill Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones yn 1990, heb wybod odid ddim amdano ar y pryd ar wahân i’r ffaith ei fod wedi graddio mewn Ffrangeg o Brifysgol Aberystwyth ac wedi marw ‘dan law ysbeilwyr’ ym Mongolia Fewnol ar 12 Awst, 1935 – ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 30.