Mae pob rhiant wedi poeri ‘Pwy faga blant?’ o dan ei wynt ar ôl diwrnod heriol arall efo epil trafferthus, ond yr ateb i’r cwestiwn rhethregol hwnnw bellach ydi ‘llai a llai’.
Yn ôl ffigyrau diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae mwy nag erioed o ferched yn ddi-blant erbyn cyrraedd eu deg ar hugain oed a merched yn ei gadael hi’n hwyrach a hwyrach cyn cael babi. Mae’r nifer o blant y mae merched yn eu cael hefyd wedi gostwng, ac mae cynnydd yn y nifer o ferched sy’n peidio planta o gwbwl.
Mae nifer o resymau cwbwl gredadwy yn cael eu cynnig i esbonio’r newidiadau yma, ond dydi’r Pab ddim yn hapus o gwbwl am y sefyllfa ac mi wnaeth o’r datganiad rhyfeddol fod pobol sydd ddim yn cael plant yn hunanol.