Mae’r sbloets o sylw sydd wedi dilyn cyhoeddiad annisgwyl Nicola Sturgeon ym mis Chwefror ei bod hi am ildio ei lle fel Prif Weinidog yr Alban wedi tanlinellu unwaith yn rhagor y gagendor sydd wedi agor rhwng pleidiau cenedlaethol yr Alban a Chymru ers datganoli. Ond a oes pethau gwell ar y gorwel i Blaid Cymru?
Adeg yr etholiadau cyntaf i’r seneddau datganoledig, yn 1999, fe welwyd yr SNP a Phlaid Cymru, dwy chwaer-blaid, yn sicrhau canlyniadau syndod o debyg. Yn wir, roedd canran Plaid Cymru o’r bleidlais ranbarthol yng Nghymru (30.5%) ychydig yn uwch na chanran yr SNP o’r bleidlais ranbarthol yn yr Alban (27.3%), gyda Chymru, ac ymchwydd rhyfeddol cenedlaetholdeb Cymreig, yn darparu stori fwya’r dydd.
Ond er nad oedd modd gwybod hynny ar y pryd, gwyddom bellach mai penllanw oedd etholiad 1999 i’r Blaid. Yn yr etholiad dilynol (yn 2003) gostyngodd ei chefnogaeth yn ôl i tuag 20% o’r etholwyr, a dyna’n fras y ganran sydd wedi pleidleisio drosti ym mhob un o’r pedwar etholiad ar gyfer ein deddfwrfa genedlaethol a gynhaliwyd ers hynny.
Nid yw hyn yn golygu bod Plaid Cymru’n amherthnasol, wrth gwrs. Mae’r system bleidleisio rannol-gyfrannol a ddefnyddir mewn etholiadau datganoledig yn cynnig cyfleoedd iddi gael dylanwad, ac fe ellid dadlau ei bod wedi gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd hynny. Serch hynny, Plaid Cymru yw’r drydedd blaid yn y Senedd ac mae breuddwyd 1999 o ddiorseddu’r Blaid Lafur Cymreig wedi hen chwalu.
Afraid dweud bod gwleidyddiaeth yr Alban wedi dilyn trywydd go wahanol yn y cyfamser. Do, fe syrthiodd yr SNP yn ôl ryw ychydig yn 2003. Hwn oedd etholiad y Baghdad bounce – etholiad a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod byr iawn hwnnw pan oedd modd i bobl a ddylai wybod yn well eu darbwyllo eu hunain y gallai fod rhyw fath o rinwedd yn perthyn i’r penderfyniad i ymosod ar Irac. Ond ers hynny mae’r SNP wedi cymryd camau breision yn ei blaen.