Medi 2008 / Rhifyn 548

Ffiniau, Dewi Z Phillips

Tudur Hallam

Adolygiad o Ffiniau, Dewi Z. Phillips

Y Lolfa, Awst 2009

Bu farw’r cawr athronydd, yr Athro Dewi Z. Phillips, yn sydyn annisgwyl yn 2006. Rhaid bod Ffiniau gyda’r olaf o’i gyfansoddiadau. Chwithig o raid, felly, yw adolygu’r gyfrol gan wybod na ddaw o du’r awdur yr un wrthddadl heriol-ddeallus i droi fy sylwadau arni tu chwith allan. Ydyw, y mae’n demtasiwn priodoli i Ffiniau yr arwyddocâd hwnnw a briodolir weithiau i eiriau olaf dyn cyn iddo farw, a’i ystyried yn fath ar destament olaf. Ac eto, nid llais dyn ar ymadael a glywir yn y gyfrol hon. Nid dyn marwaidd a’i cyfansoddodd. Ac i’r rhai ohonom a gawsom y fraint o wrando ar yr Athro Dewi Z. yn traethu, fe’i gwelwn eto’n sefyll yng ngrym ei huodledd wrth inni ddarllen Ffiniau.

Tudur Hallam
Mwy

Ffiniau

Hywel Teifi Edwards

Bu farw Dewi Z Phillips cyn gorffen ei gyfrol olaf, Ffiniau. Hywel Teifi Edwards, a fu'n ei gynorthwyo a'r gwaith, sydd yn ein cyflwyno i'r gyfrol, tra'n talu teyrnged i un o feddylwyr mwyaf Cymru.

Hywel Teifi Edwards
Mwy