Hefin Wyn
Mewn cyfnod pan fo’r diwylliant canu poblogaidd yn gyffredinol wedi cyrraedd ‘cul de sac’, beth yw’r ffordd ymlaen i fandiau a chantorion Cymraeg a Chymreig? Cydio’n gadarn yn eu gwreiddiau yw’r ateb, meddai’r awdur.
Y geiryn diystyr ‘wplabobihocdw’ sy’n crynhoi’r ymdeimlad o ddim o bwys yn digwydd ym maes diwylliant yr ifanc yn y 1980au, a’r cwestiwn ‘ble wyt ti rhwng?’ sy’n crynhoi’r ymdeimlad o ymholi, a’r mentro hyderus i gyfeiriadau newydd, a fodolai yn y 1990au. Y geiryn roc a rôl hwnnw oedd teitl un o raglenni radio Huw ‘Bobs’ Pritchard, a oedd yn cyfleu i’r blewyn natur fyrlymus os nad corwyntog y cyflwynydd. O ganlyniad i ehangu oriau darlledu radio a sefydlu S4C yn gynnar yn y 1980au, fe sugnwyd talentau lu i weithio i’r cyfryngau Cymraeg.