Mae hwn yn rhifyn Olympaidd ar sawl gwedd, gyda’r sioe o Brydeingarwch a fu o gylch y Gemau wedi ysgogi colofnwyr fel Derec Llwyd Morgan a Richard Wyn Jones, i ystyried arwyddocâd hynny i genedlaetholwyr yn y Gymru a’r Alban ddatganoledig. Cofio am y rhai hynny ohonom sy’n casáu chwaraeon y mae Beca Brown – ai newid agweddau at ymarfer corff fydd gwaddol pwysica’r Gemau? Yn y cyfamaser mae gennym adran gyfan yn pwyso a mesur prifwyl arall yr haf – Eisteddfod Bro Morgannwg. Darllenwch hefyd feddyliau Andrew Misell am y modd y lladdwyd pob gobaith am ddiwygio Ty’r Arglwyddi am ddegawd a rhagor, ymateb y meddyg teulu Catrin Elis Williams i’r defnydd helaeth o gyffurfiau gwrthiselder yng Nghymru, barn Will Patterson am gwymp Rangers, a chyfweliad gyda’r canwr-gyfansoddwr o Ddyffryn Conwy, Dan Amor, a’i fam sy’n arlunydd proffesiynol. Hyn oll a llawer mwy.