Yn y rhifyn diweddaraf mae llu o erthyglau treiddgar ar bynciau cyfredol o bob math. Mae Dafydd Iwan yn ymateb i'r difrod diweddar ar wal 'Cofiwch Dryweryn' ac ar ddarn o Glawdd Offa – a yw'n achos ffromi? Dadansoddiad o'r helyntion gwaedlyd yn yr Aifft a gawn gan Pedr Jones. Os am wybod pam y gwnaeth Llysgenhadaeth America unwaith archebu'r Faner, darllenwch erthygl Harri Pritchard Jones. Ym myd llên, mae John Rowlands yn ymateb yn chwyrn i honiadau diweddar Emlyn Evans am safon nofelau Cymraeg, a Bethan Kilfoil yn trafod un o'r nofelau gorau am Iwerddon. Drama sydd dan sylw gan Simon Brooks, sy'n dadlau y dylai'r Theatr Genedaethol fod wedi gosod Blodeuwedd yn y 1920au. Cewch hefyd ymateb ein hadolygwyr Eisteddfodol i adladd Dinbych, yn llên, theatr, cerddoriaeth a chelf, gan gynnwys adran lle mae un ar ddeg o ymwelwyr â'r Lle Celf wedi dewis eu hoff weithiau yn yr arddangosfa – a dim ond dau wedi dewis gweithiau buddugol. Am hyn oll a mwy, bachwch eich copi.
Andrew Misell
Saith deg o flynyddoedd yn ôl i’r mis hwn rhoddwyd cychwyn ym mhrifddinas yr Aifft ar un o’r mentrau cyhoeddi mwyaf hynod yn holl hanes y wasg Gymraeg.
Rydym i gyd yn gyfarwydd ag anwybodaeth ein cymdogion agosaf o Gymru a’r Gymraeg. Nid fi yw’r unig un, mae’n siwr, sy’n teimlo fel cenhadwr bob tro y byddaf yn croesi Clawdd Offa. Ond pitw a dibwys yw fy ymdrechion achlysurol i o’u cymharu â menter ryfeddol a barhaodd am bum mis ar hugain yng nghanol anhrefn yr Ail Ryfel Byd. Menter a aeth â’r Gymraeg i barthau llawer iawn pellach na Lloegr.