Hefin Jones
Roedd amrywiaeth ryfeddol o gigs a gweithgareddau yn fodd i wneud Eisteddfod eleni’n un gofiadwy i ddilynwyr cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.
Nid yr un yw’r Eisteddfod i bawb. Diwrnod yn y pafiliwn a phic i’r Babell Lên cyn swper ac yna ciando yn y garafan i rai. Treps rownd y maes a gwin yn Pl@tiad cyn cyngerdd neu stomp neu noson lawen yn y pafiliwn i eraill. Ac i eraill eto, dau neu dri pnawn hwyr ar far y maes cyn dechrau ar noson arall o yfed ei hochr hi i gyfeiliant y gerddoriaeth gyfoes orau sydd gan y Gymraeg i’w chynnig. Ac nid campiwrs Maes B yn unig sydd â siâp niwlog felly i’w dyddiau.
Daeth dechrau calonogol i’r wythnos wrth i bob tocyn gael ei werthu ar gyfer gig yn y Thomas Arms ar y Sadwrn cyntaf, gyda Jamie Bevan yn cynhesu’r ystafell i’r hedleinar gael mynd yn ail. Yn union fel y gwnaeth flwyddyn yn ôl mi aeth Meic Stevens i lawr ar y rhaglen gan adael Neil Rosser i orffen. Ar ben y ffaith ei fod eisiau noson dda o gwsg bellach, tebyg fod Swynwr Solfach yn ddigon hirben i sylweddoli ei bod yn haws cau cegau pobl gyda pheint neu dri’n llai ynddynt, er iddo, yn ôl ei arfer, fwrw ei lid ar y rhai oedd yn siarad yn y bar. A llawn oedd gigs nesaf Cymdeithas yr Iaith hefyd. Bu Crys yn ei waldio hi yng Nghlwb Rygbi’r Ffwrnes ar y nos Lun, gan beri ychydig o ddryswch ymysg ffans ifanc Y Bandana, Y Reu a Castro gyda roc a oedd mor hen ffasiwn i’w clustiau nes ei fod yn brofiad hollol newydd. Roedd y Thomas Arms yntau dan ei sang yn gig Steve Eaves a Geraint Løvgreen ar y nos Fawrth. Mae disgwyl i Eaves ei hoelio hi bob tro, ond roedd egni arbennig ganddo i ddilyn y parti o berfformiad a gafwyd gan Løvgreen gyda’i lwyth hegar newydd o ganeuon yn lambastio’r cambihafwyr-bwysigyddion cyfoes dros sylfaen o’r hen glasuron, a hynny ar ôl derbyniad gwresog i set sgleiniog Siddi. A gwresog oedd hi yno’r noson wedyn yn ogystal wrth i Ail Symudiad barhau â’u haf prysur yn dilyn cyhoeddi eu cyfrol o atgofion.
Y nos Fercher oedd noson gyntaf Maes B hefyd, a chafwyd gig ychwanegol annisgwyl wrth i’ch gohebydd a’i gymdeithion dreulio awren dda ar falconi eu fflat ger y môr yn gwrando ar set Yr Ods a oedd yn glir fel grisial er eu bod yn chwarae o leiaf dair milltir i ffwrdd. Amheuwyd bod y dyn sain clodwiw Aled Ifan yn refio’r system i’r eithaf, ond dysgodd eich gohebydd ychydig o wyddoniaeth – gan fod y llanw i mewn roedd y sain yn bownsio’n syth o’r dwr i’r dre yr ochr arall, gan wylltio mamau plant cyndyn-o-gysgu a oedd eisiau gwybod beth oedd y cyffro.
Doedd dim smic i’w glywed oddi yno’r noson wedyn gan fod y llanw allan (does bosib fod Aled Ifan wedi derbyn cerydd yr awdurdodau lleol). Y Ffug oedd yr enw poeth y tro yma. Roedd bygwth perfformiad gan y rhain a fyddai’n eu taflu i gae’r bois mawr ers tro, ac mi ddaeth. Yn wir, roedd dau neu dri mynychwr profiadol yn mynnu mai dyma’r peth gorau iddynt ei weld ym Maes B erioed.
Lle sydd wedi mynd o o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2013 ydi Caffi Maes B a oedd yn orlawn drwy’r wythnos fwy neu lai. Roedd y sesiynau yn amrywio o set annisgwyl gan ddau aelod o’r Trwynau Coch i’r ddadl ddigri am y degawd gorau yn hanes canu cyfoes Cymraeg (er fod Rhys Mwyn, un o aelodau’r panel, wedi llwyddo i flogio am ei siom yn y digwyddiad fel petai o’r peth pwysicaf ers treialon Nuremberg) a’r perfformiadau gan fandiau newydd sefydledig fel Swnami a Candelas ynghyd ag ambell i syrpreis fel Jessop a’r Sgweiri. Dyma fand sy’n bygwth na fydd unrhyw gigs eraill o hyn ymlaen, ond mae’n debyg mai’r rheswm am hynny yw nad oes neb yn cynnig. Does dim ffryntman na band parti gwell. Drefnwyr, ewch ar eu holau canys bydd yn drychineb os gadewir i’r band yma farw.
Plesio’n arw hefyd a wnaeth Saron, y ddeuawd hynod ifanc eu gwedd o’r ‘saithdegau’, a’u geiriau fel ‘Cân ddigalon yw hon am boen a phethau felly’ yn cyfuno doniolwch a chanu sicr, hyderus. Roedd ffordd agos-atoch-chi, hen ffasiwn Siân, Siwan ac Elfed wrth gyflwyno’u caneuon soniarus yn edliw inni oes gynhesach rywsut.