Mewn gwlad sy’n llawer mwy ymwybodol o’i hanes na Chymru fe allai canmlwyddiant gwrthryfel y Pasg a’r etholiad cyffredinol nesaf yng Ngweriniaeth Iwerddon ddigwydd o fewn dyddiau’n unig i’w gilydd. Faint o effaith tybed allai’r naill ei gael ar y llall?
Dyma ni rŵan yn cychwyn tymor newydd ar ôl yr haf. Ond gadewch i ni gydymdeimlo am funud gyda grŵp o bobl anffodus na chawsant gyfle go iawn i fwynhau hoe fach yn yr haul, na hyd yn oed lyfu corneto slei, heb orfod pwyso a mesur effaith pob gweithred a chyfarchiad ar eu poblogrwydd.
Ydyn, mae gwleidyddion yr Ynys Werdd yn wynebu etholiad cyffredinol o fewn y chwe mis nesaf, ac wedi bod wrthi’n ymgyrchu ers misoedd yn barod. Oherwydd dan y drefn PR aml-sedd sydd ohoni yn Iwerddon, mae’r gwaith o ofalu am eich sedd, a’i chadw’n saff nid yn unig rhag y pleidiau eraill, ond hefyd oddi wrth ymgeiswyr uchelgeisiol eraill o fewn eich plaid eich hun, yn orchwyl ddi-baid...
Medi 2015 / Rhifyn 632

Paratoi at etholiad 2016 – ac at gofio gwrthryfel 1916

Y Racing Post a dyfodol ariannol y Brifwyl
Am dair noson ddifyr dros ben yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol cefais rannu bwrdd swper gydag un y mae ei chefnogaeth i dîm pêl-droed Abertawe yr un mor wresog – onid yn wresocach – na f’un i, a chydag un y mae ei gas tuag at dîm criced Awstralia yn finiocach o beth coblyn na f’un i. Margaret, gweddw Dafydd Rowlands y bardd a’r llenor, yw’r naill; ac Elystan Morgan yw’r llall.

Adladd Steddfod Meifod – Roc a phop: Steddfod – Y lle y fod
Roedd y cyfuniad o hen stejars, rhai o’r prif fandiau cyfoes a bandiau ifanc llawn addewid ym Meifod eleni yn cynnig amrywiaeth werth chweil i ddilynwyr y SRG, yn ôl ein hadolygydd.
Wrth i wyliau cerddorol cyffrous gael eu cynnal bron bob penwythnos mewn rhyw ran o Gymru, ydi’r Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i gael ei hystyried fel uchafbwynt y flwyddyn i’r artistiaid?
O ystyried faint o fandiau ac artistiaid o unigolion a berfformiodd yn yr Eisteddfod eleni, mae’n sicr yn ymddangos bod pawb eisiau bod yno. Mae holl lwyfannau’r maes – o’r Tŷ Gwerin i Gaffi Maes B – ynghyd â Maes B ei hun a gigs Cymdeithas yr Iaith, yn sicrhau bod modd i rywun gael darlun reit gyflawn o’r hyn sy’n digwydd yn y sîn roc a gwerin yng Nghymru heddiw. O hen stejars i fandiau ysgol, o gerddoriaeth electronig i alawon gwerin, mae ’na rywbeth i bawb.

Y Cymro a Baentiai o’r Galon: Cofio Gwilym Prichard
Ar 7 Mehefin eleni bu farw’r artist Gwilym Prichard, yn 84 oed. Crwydrodd yn helaeth, gan fyw ar y Cyfandir am flynyddoedd. Ond yn ôl i Gymru y daeth, a thirlun ei wlad ei hun oedd ei ysbrydoliaeth pennaf. Yma mae cyfaill sydd hefyd yn arbenigwr ar ei waith yn cofio un o’n harlunwyr blaenaf.
Pentiroedd creigiog a chlystyrau anghysbell o adeiladau fferm gwyngalchog. Creigiau’n frith o gen, waliau cerrig sych, rhedyn a chaeau dan eira. Drain duon a sigwyd gan y gwynt a thraethau bychain yn llygad yr haul. Y golau’n chwarae ar ochr mynydd neu gymylau’n dynesu gan fygwth storm. Roedd y rhain yn fotiffau a ddychwelai dro ar ôl tro yn lluniau Gwilym Prichard...

“Dyddiau Gwleidyddol Cwbl Ryfeddol”
Mae’r awdur yn rhagweld mai cyfnod hir o rwygiadau dinistriol sy’n wynebu Llafur yn sgil ei methiant yn yr etholiad cyffredinol a’r frwydr bresennol am yr arweinyddiaeth. Ond fydd bywyd ddim yn fêl i gyd i David Cameron chwaith...
Nid dim ond colli etholiad wnaeth Llafur ym mis Mai ond yn hytrach dioddef yr hyn y byddwn ni Fonwysion yn ei alw’n gythraul o gweir. Wedi cosfa o’r fath faintioli yn yr Alban yn arbennig, mae’n anodd iawn gweld llwybr yn ôl i 10 Stryd Downing i Lafur yn 2020, a hynny waeth pwy fydd yn ennill y frwydr arweinyddol. Dyna pam, mae’n debyg, fod y frwydr honno wedi profi’n ornest mor syfrdanol o chwerw.
Gydag unrhyw obaith am fuddugoliaeth etholiadol o bwys wedi diflannu dros y gorwel – a nac ydi, nid yw ennill yng Nghymru ym Mai 2016 yn cyfrif – diflannodd hefyd y rhithyn lleiaf o ddisgyblaeth fewnol.

Ymadawiad golygydd a micro dröedigaeth
VAUGHAN HUGHES sy’n trafod rhai o’r gweithiau yn adran gyfansoddi’r Brifwyl a ddenodd ei sylw gan ddatgelu hefyd pwy o ddifrif yw rhai cystadleuwyr y cyfeirir atynt yn y gyfrol wrth eu ffugenwau’n unig.
Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a’r Gororau 2015
Gol. J. Elwyn Hughes
tt. 263, Llys yr Eisteddfod, £9.00
Ar dri achlysur ar hugain dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf bu J. Elwyn Hughes yn anelu gynnau mawr ei olygyddiaeth at y ‘beirniaid digalendr, difater a digydwybod’ a lesteiriai’r dasg anferthol o baratoi’r gyfrol hon ar gyfer y wasg. Ond y tro hwn, ac yntau’n ymgymryd â’r gwaith am y tro olaf, yn null milwr sy’n edrych ymlaen at ddiosg ei lifrau, mae Elwyn yn demob happy...