Yn dilyn y bleidlais i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, mewn trwmgwsg o hyd y mae Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru.
Mae’r her o ran negodi dwsinau o gytundebau masnach rhyngwladol newydd eisoes yn hysbys. A gan nad oes yna unrhyw fodd i’r wladwriaeth gyflogi a hyfforddi digon o staff yn ddigon cyflym i wneud y gwaith ei hun, byddwn yn awr yn talu trwy’n trwynau i gwmnïau cyfreithiol amlwladol am eu cyngor a’u cymorth...
Ond wrth gwrs, dagrau pethau yw y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud y gorau o’r sefyllfa a grëir yn sgil y ffaith fod mwyafrif yn Lloegr a Chymru wedi cefnogi Gadael. Sôn am dalcen caled...
Medi 2016 / Rhifyn 644

Llywodraeth ddiymadferth

Anaddas i blant… tybed?
... Bu wylofain a rhincian dannedd ddechrau’r haf ar ddiwrnod pen-blwydd Harper Beckham, pan gyhoeddwyd llun o’i mam yn rhoi cusan ar wefusau ei merch bum mlwydd oed i ddymuno pen-blwydd hapus iddi. ‘Disturbing’ oedd un o’r disgrifiadau o’r llun, a llawer o’r bobol a ymatebodd yn dweud bod y gusan yn eu hanesmwytho, am ei bod ar wefusau’r eneth fach.

Will wâr a Jilly wirion
.. Dyna pam yr ydw i’n hapus efo’r diffyg sylw mae Llundain yn ei roi i uchel ŵyl ein diwylliant. Gwell hynny na gorfod dioddef argraffiadau anwybodus pobol anwybodus.
Eleni, fodd bynnag, newidiodd y sefyllfa. I’r Fenni daeth – seinier y Corn Gwlad! – Golygydd Celfyddydau’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig.

Twyllo graddedigion a llethu athrawon
Daeth mis Medi, a gwyliau arall drosodd. Ond dagrau pethau yn achos cyfran uchel o fyfyrwyr yw hyn: dod i ben hefyd fydd eu breuddwydion.
... Yn ôl dwy ffaith a gyhoeddwyd yn ystod yr haf, achos pryder, nid hyder, ddylai fod flaenaf ym meddyliau disgyblion, myfyrwyr a’u haddysgwyr y Medi hwn.
Y ffaith gyntaf oedd bod mwy na 50,000 o raddedigion diweddar mewn swyddi lle nad oes angen gradd i’w cyflawni, a hyn yn ychwanegol i’r 10% o israddedigion sy’n rhoi’r gorau i’w cyrsiau yn ystod y flwyddyn gyntaf...

Gwastraff ar raddfa Olympaidd
Mae’n anodd iawn caru’r Gemau Olympaidd, ond y mae’n gwbl amhosibl eu hosgoi. Am bythefnos fis Awst ni chafwyd dim arall drwy’r dydd a chyda’r nos ar y teledu.
Yr ydym yn byw mewn cyfnod o gyfalafiaeth ddathliadol, a’r Gemau Olympaidd yw’r hysbyseb fyd-eang amlycaf i’r gyfalafiaeth honno... Cymerodd ddeng mlynedd ar hugain i Montreal gyfoethog glirio’r biliau. Ond mae Brasil yn wlad y mae ei sefydliadau gwleidyddol yn llwgr oll, yn un y crebachodd ei heconomi o 3.8% yn 2015 a lle y mae dros 11% o’i phoblogaeth yn ddi-waith...

Pwy bia’r Steddfod?
Mae peryglon enbyd i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn yr obsesiwn gyda chynhwysedd a amlygodd ei hun ers datganoli, yn ôl un a fu’n crwydro’r Maes.
... Unwaith eto, fel sy’n digwydd bob blwyddyn ers i’r Welsh Mirror ddatgan yn 2002 mai hon yw’r ‘festival of fear and hatred’, cafwyd ymosodiadau ar Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Eleni, fel ymhob blwyddyn, comisiynodd y BBC erthygl am yr Eisteddfod wedi’i seilio ar y trosiad o ‘inclusion’ ac ‘exclusion’. Mae’r Saesneg yn cynnwys pobl, a’r Gymraeg yn eu cau nhw allan. Trafodwch. Eleni, fel ymhob blwyddyn, cyhoeddodd y Western Mail erthygl passive-aggressive am yr angen i ymestyn ‘a warm welcome’ i’r di-Gymraeg.