Mae ein gwleidyddiaeth etholiadol wedi’i nodweddu gan ‘unbleidiaeth’. Mae’r Blaid Lafur wedi dominyddu etholiadau yng Nghymru ers canrif. Cyn hynny y Rhyddfrydwyr oedd yn tra-arglwyddiaethu. Mewn termau cymharol mae hyd a lled gafael ‘unbleidiaeth’ ar yr etholaeth Gymreig yn hynod, hynod anghyffredin. Nid oes unman sy’n debyg iddi. Hawdd fyddai dehongli’r fath deyrngarwch at un blaid wleidyddol fel arwydd ein bod yn bobl anarferol o unffurf. Eto fyth, ceir cytundeb hefyd fod Cymru’n wlad amrywiol dros ben. Cymru’n ‘gymuned o gymunedau’ yw un hen ffordd gyfarwydd o fynegi’r peth, ond efallai ei bod yn decach dweud ein bod yn wlad fach ranedig ar y naw. Yn wlad sydd wedi’i rhannu ar sail dosbarth, iaith, crefydd (ers talwm, o leiaf) a chenedligrwydd, gyda rhaniadau daearyddol, rhwng y gwledig a’r mwy trefol, yn cymhlethu pethau ymhellach.
Sut mae egluro fod gwlad sydd ar y naill law’n syndod o unffurf o ran ei dewisiadau etholiadol, ar y llaw arall mor amrywiol ac, yn wir, mor rhanedig o ran rhai o nodweddion amlycaf a mwyaf sylfaenol ei thrigolion?