Dwi’n cofio gwylio ffilm rai blynyddoedd yn ôl o’r enw Mission Impossible, a dyna’n union oedd ceisio sicrhau graddau Safon Uwch a TGAU teg i ddisgyblion ar ôl i’r arholiadau gael eu dileu yn sgil y pandemig. Yr her a oedd yn wynebu’r llywodraeth a’r byrddau arholi eleni oedd sut i fynd ati i ddyfarnu graddau a fyddai’n deg a chyson.
O ran Safon Uwch, gan fod canlyniadau’r arholiadau Uwch Gyfrannol yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, yn rhan o gymhwyster Safon Uwch, roedd yn bosib defnyddio’r wybodaeth honno i ddyfarnu’r graddau. O ran yr Uwch Gyfrannol ei hun, yr unig fesur oedd cyrhaeddiad y disgyblion yn eu harholiadau TGAU, sy’n gymhwyster hollol wahanol. Mae’r dystiolaeth ar gyfer TGAU yn deneuach fyth. Felly fe ddyfeisiwyd fformiwla a oedd yn ystyried agweddau megis canlyniadau’r ysgol yn y gorffennol ac amcan-raddau athrawon, a’i gymhwyso’n unffurf ac yn ddiwahân at yr holl ddisgyblion. A do, fe lwyddwyd i greu llanast llwyr, gan arwain at gorwynt o ymateb chwyrn a gwleidyddion yn troi fel dail yn ei ganol.