‘Peidiwch byth â mynd yn ôl i rywle lle buoch chi’n hapus. Os ewch chi’n ôl, bydd yn cael ei ddifetha.’
Agatha Christie biau’r geiriau. Ond er na wyddwn hynny ar y pryd, go brin y byddwn wedi gwrando ar ei chyngor beth bynnag pan ymwelais – am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer – â thref a fu’n rhan allweddol iawn o’m bywyd.
Bûm yn byw yng nghyffiniau Aberystwyth am dalp o’m plentyndod. Es i’r Coleg ger y Lli. Cefais swydd yng Ngwasg y Lolfa a phrynu tŷ yn Ffordd Penmaesglas, a rhan o’r cyfnod hwnnw – oddeutu dechrau’r 1990au – oedd yr amser hapusaf a dreuliais yn Aber.
Wedi imi adael, er imi ddal i ymweld â’m rhieni’n rheolaidd a mwynhau’r pleser a gâi Joel o fynd i aros yno, doedd y dre ddim yr un fath i mi rywsut.