Medi 2023 / Rhifyn 728

Grawn a blodau haul Wcráin
Materion y mis

Rhyfel y grawn – adroddiad arbennig o Wcráin

Pam mae Rwsia yn bomio porthladdoedd de Wcráin a’u storfeydd gwenith ac ŷd? Ai er mwyn ennill mantais filwrol neu i niweidio ei gelynion yn economaidd?

Fe ges i wahanol atebion gan wahanol bobl i’r cwestiynau hynny yn Odesa yn ddiweddar. Roedd trafod mawr ar yr angen i wledydd NATO a’r Undeb Ewropeaidd ddosbarthu rhagor o arfau i ‘gynorthwyo’ Wcráin. Ystyriaeth arall ydi bod dinistrio tua 600,000 tunnell o rawn Wcráin yn fanteisiol i allforion Rwsia. Mae’r ddwy wlad yn gynhyrchwyr helaeth o sawl math o rawn. Ac mae ei harweinydd wedi rhyw fath o addo y bydd Rwsia yn allforio rhywfaint o gnydau bwyd yn ddi-dâl i rai o wledydd anghenus Affrica.

Gyda Rwsia’n bomio porthladdoedd Odesa, Yuzhne a Chornomorsk – yr unig borthladdoedd sy’n dal ym meddiant llywodraeth Wcráin – mae’n ergyd ariannol a milwrol.

Iolo ap Dafydd
Mwy
Sinéad O’Connor a thudalennau blaen papurau newydd yn dilyn ei marwolaeth
Iwerddon

Sinéad O’Connor – yr athrylith gythryblus

Ym mis Mai 2009, fe gyhoeddwyd adroddiad Comisiwn Ryan ar gam-drin plant o fewn yr Eglwys Gatholig. Fe es i’r lansiad ar ran newyddion RTÉ i wneud adroddiad ar gyfer y bwletinau teledu, gan holi rhai o’r dioddefwyr oedd wedi ymgyrchu dros y blynyddoedd. Roeddwn i wedi gorffen y cyfweliadau ac ar fin rhuthro allan pan ddaeth dynes swil yr olwg ataf. Roedd ganddi wallt brown byr, ac edrychai’n welw. Dywedodd y gallwn wneud cyfweliad efo hi os mynnwn. Gofynnais yn ofalus a oedd ganddi stori bersonol i’w rhannu. Wel, meddai, roedd hi wedi cael ei cham-drin yn gorfforol fel plentyn, nid mewn sefydliad eithr gan ei theulu. Ond mewn gwirionedd, meddai, eisiau rhoi ei hymateb i adroddiad Ryan oedd hi. Roedd y dyn camera wedi mynd, felly rhoddodd gerdyn yn fy llaw: ‘Gei di gysylltu â fi unrhyw bryd,’ meddai, ac i ffwrdd â hi. Edrychais ar y cerdyn, a’r enw arno oedd Sinéad O’Connor.

Bethan Kilfoil
Mwy
Myfyrwyr mewn seremoni graddio
Catrin sy'n dweud

Gadael coleg heb radd

Mae’r seren wrth ddydd Iau 29 Gorffennaf 2023 wedi bod yn fy nyddiadur ers o leiaf chwe mis. Diwrnodau bant o’r gwaith wedi eu trefnu; swper a gwesty dros nos hefyd i bedwar aelod o’r teulu a hyd yn oed apwyntiad yn y garej leol i sicrhau bod teiars fy nghar bach injan 1 litr yn barod ar gyfer y daith bum awr oedd o’u blaen. Seremoni graddio fy merch mewn prifysgol yn Lloegr oedd yr achlysur, ond fel y bu nid seremoni ‘Graddio’ a gafwyd ond ‘Dathliad Diwedd Astudiaethau’.

Fel gyda chanrifoedd o seremonïau’r brifysgol hon, roedd y traddodiadau yn fyw ac yn iach. Roedd y gŵn du a’r cwcwll gwyn blewog yno; y cyflwyniadau yn Lladin ynghyd â’r arfer o benglinio gerbron Meistr y Coleg ac edrych i fyw ei lygaid. Yr hyn oedd ar goll i’m merch oedd gradd – sef yr union reswm yr aeth hi a’i chyfoedion i’r brifysgol. Ar ôl tair blynedd o astudio dwys a thraethodau wythnosol mae wedi gadael nid fel ‘Graduate’ ond yn hytrach fel ‘Graduand’ – un sydd heb eto dderbyn gradd – a hynny o ganlyniad i’r boicot marcio gan addysgwyr sy’n aelodau o Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU).

Catrin Evans
Mwy
Ifor Davies yn dyfarnu ei wobr i waith Callum Humphreys
Celf

Yr hudolus, yr hiraethus a’r amwys

Fel y disgwylid, roedd nifer o’r artistiaid yn y Lle Celf eleni’n ymateb i ryw agwedd ar Gymru – ei thirwedd, ei hanes neu ystyriaethau gwleidyddol. Dehongli’r hen ddisgrifiad o lo fel ‘aur du’ wnaeth Kim Colebrook, gyda chyfres o 30 o sgwariau porslen, dau wedi’u gorchuddio ag eurddalen ond y lleill yn ddu ac yn graciau drostynt. Gyda chymysgedd o hiraeth a dicter portreadai ffotograffau monocrom Callum Humphreys, enillydd Gwobr Ifor Davies, dirwedd dirywiedig ardal ôl-ddiwydiannol. Dau baentiad anferth o olygfa yn Eryri oedd gan Daniel Crawshaw, wedi eu paentio yn ffotograffaidd o orfanwl fel rhyw pastiche o waith arlunwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Herio’r ffin rhwng realaeth a mynegiant lled haniaethol, mewn modd oedd yn fy atgoffa o waith Elfyn Lewis, yr oedd paentiadau olew monocrom cyfareddol Jonathan Ratallick gan archwilio effeithiau heulwen a chymylau ar fynydd-dir.

Ceridwen Lloyd-Morgan
Mwy
Un o aelodau Kitch ’n’ Sync yn perfformio ar y Maes
Theatr

Drama ym mhob twll a chornel

Wrth adolygu arlwy theatr yr Eisteddfod y llynedd, fe gwynais yn groch fod sŵn bwrlwm y Maes (yn enwedig Caffi Maes B) yn llifo’n ddilywodraeth i Theatr y Maes, ac yn tarfu ar wrandawiad y gynulleidfa. Wel, datryswyd y broblem, ac yn y modd mwyaf di-lol. Cafodd trefnwyr Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd wared ar Theatr y Maes yn llwyr, a gosod nifer o’r sioeau theatr yng Nghaffi Maes B ei hun. At hynny, trefnwyd bod mwy o sioeau a pherfformiadau ar hyd y Maes: yn lle cael Theatr ar y Maes, felly, trowyd y Maes i gyd yn theatr.

Golygai’r penderfyniad hwn fod modd i rywun ddod ar draws perfformiadau o ddramâu yn ddisymwth wrth grwydro ar hyd y lle. Pleser digamsyniol oedd hynny, ac yn gwbl gyson â’r profiad o fod ar y Maes. Fodd bynnag, fe olygai hefyd y gallai rhywun golli sawl un o’r perfformiadau oni bai iddo gynllunio’r cyfan o flaen llaw yn reit ofalus.

Roger Owen
Mwy
Jac Morgan, cyd-gapten tîm rygbi Cymru
Chwaraeon

Aelod diweddaraf cylch anrhydeddus

Pan benodwyd Jac Morgan yn gapten tîm rygbi Cymru yn erbyn y Saeson yng Nghaerdydd Sadwrn cyntaf Awst, yr oeddwn, fel cannoedd ar gannoedd o bobl eraill, wrth fy modd. A hynny am fwy nag un rheswm. Yn gyntaf, am fy mod yn adnabod ei dylwyth ac yn hoff ohonynt. Yn ail, am fy mod yn falch fod Warren Gatland wedi cydnabod ei ddoniau arweinyddol. Ac yn drydydd, am ei fod yn ychwanegiad at y grŵp enwog o gapteiniaid Cymreig a aned ac a faged o fewn pum milltir i’m hen gartref.

Derec Llwyd Morgan
Mwy

Cip ar weddill rhifyn Medi

Prifwyl 2024 - gocheler rhag gelyniaethu’r trigolionHeledd Fychan
Cymharu Cymru a ChatalwniaMared Gwyn
Isetholiad anodd i’r SNPWill Patterson
Radio 3 yn dathlu cyfansoddwyr benywaidd CymreigGeraint Lewis
Cofio Ann ClwydTweli Griffiths
Adolygu’r Cyfansoddiadau a nofelau’r Fedal a’r DanielVaughan Hughes a Meg Elis
Cofiant ‘ysgubol’ i Granogwenadolygiad Angharad Price

Mwy
Sage Todz yn perfformio
Darllen am ddim

‘O bydded i’r heniaith…’

Mawr obeithiaf fod pob un o’n darllenwyr wedi gwerthfawrogi’r modd synhwyrol ac aeddfed y trafodwyd Rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol gan Hywel Pitts mewn erthygl yn ein rhifyn diwethaf. Ymateb oedd o i’r helynt ‘diangen o hyll’ a ddeilliodd o benderfyniad Sage Todz i wrthod y gwahoddiad i berfformio ym Mhrifwyl Boduan yn hytrach nag ailwampio ei ddeunydd dwyieithog poblogaidd yn unol â gofynion y Brifwyl. Roedd y gwaith cyflwyno medrus a chynnes a wnaeth Sage ar y teledu drwy gydol yr wythnos yn profi yn y modd mwyaf cadarnhaol nad oedd ganddo unrhyw gweryl o fath yn y byd efo’r Eisteddfod. Nid oedd ganddo chwaith unrhyw ddymuniad i herio heb sôn am danseilio’r Rheol Gymraeg. Ond glynodd at ei hawl hollol resymol i beidio gwneud i ffwrdd â’r Saesneg o’i gyfansoddiadau rap ef ei hun.

Cofiwch mae gen i gof fod band roc, rai blynyddoedd yn ôl, wedi mynd ati’n fwriadol i dorri Rheol Gymraeg y Steddfod – neu’n hytrach i annog y gynulleidfa i’w thorri. A’r Super Furry Animals yn anterth eu poblogrwydd yn Lloegr a thu hwnt – a chyn iddyn nhw recordio’r albwm Cymraeg Mwng – fe ddaethon nhw o hyd i ffordd ddyfeisgar a chyfrwys i ymddangos yn y Steddfod. Chwibanu eu caneuon wnaethon nhw. Ond trefnwyd bod geiriau’r caneuon yn cael eu hargraffu ar daflenni a ddosbarthwyd ymhlith y gynulleidfa. Nid y Super Furries, felly, ddaru ganu yn Saesneg – y gynulleidfa wnaeth!

Vaughan Hughes
Tudalen flaen y Daily Mail, 'Patients trying to escape Labour's Welsh NHS', a Rishi Sunak
Darllen am ddim

Y Daily Mail, y Blaid Geidwadol a Chymru

Mae’r wasg Dorïaidd lasaf hyd yn oed yn gallu rhoi’r prif sylw i Gymru weithiau – ar un amod yn unig. Sef ei bod yn credu y bydd hynny o gymorth i gadw’r Ceidwadwyr mewn grym.

Anaml iawn, iawn y bydd papur newydd mwyaf dylanwadol y wladwriaeth hon yn troi ei olygon tuag at Gymru. Felly mae’r ffaith fod y Daily Mail wedi neilltuo tudalen flaen rhifyn diweddar i stori a oedd yn honni trafod cyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn arwyddocaol (‘Patients trying to ‘escape’ Labour’s Welsh NHS’, 14 Awst 2023). Yn enwedig felly pan gofiwn am y cysylltiad uniongyrchol a chlos sy’n bodoli rhwng y Torïaid a’r hyn a eilw Tim Bale, y prif arbenigwr academaidd ar y blaid honno, ‘the party in the press’.

Rhag ofn fod unrhyw un yn parhau i’w dwyllo ei hun: mae gan bapurau newyddion, neu a bod yn fanwl gywir, eu perchnogion a’u gweision o olygyddion, eu hagendâu gwleidyddol eu hunain. Yn amlach na pheidio mae’r rhain yn gysylltiedig â hynt plaid ddominyddol Lloegr.

Dros y blynyddoedd diwethaf, chwaraeodd y Telegraph, yr Express a’r pwysicaf o’r triawd, y Mail, rôl ganolog yn y frwydr fewnol honno sydd wedi gweld y Blaid Geidwadol yn ymdebygu fwyfwy i UKIP wrth i aelodau mwy cymedrol eu hanian gael eu gwthio o’r rhengoedd. Hynny naill ai yn sgil erledigaeth uniongyrchol (meddylier am Guto Bebb) neu oherwydd eu bod wedi anobeithio’n llwyr wrth weld eu plaid yn coleddu safbwyntiau mor eithafol.

Richard Wyn Jones