Mehefin 2010

Wrth i’r hinsawdd gynhesu, a ydym mor agos at y dibyn ag y myn rhai amgylcheddwyr? All Cymru chwarae ei rhan yn y chwyldro ynni gwyrdd? Pam nad oes bron neb yn meiddio beirniadu S4C yn gyhoeddus? Beth yw gwerth cyfieithu ar y pryd? A gwobr Artes Mundi? A’r gwasanaeth awyr rhwng Môn a Chaerdydd? Darllenwch farn Bethan Wyn Jones, Dafydd ab Iago, Gwion Owain, Judith Kaufmann, Osi Osmond a Gwyn Williams. Yn y fargen, cewch wahoddiad i mewn i hoff stafell Daniel Glyn.

 

Pawb at y Peth y Bo

Elin Llwyd Morgan

Erbyn i’r golofn hon weld golau dydd mi fydd Eisteddfod yr Urdd ar ein pennau, a channoedd o rieni trwy Gymru benbaladr yn hel eu pac a’u plant yn barod i fynd yno. Ond – yn wahanol i’m cyd-golofnydd Beca Brown – ni fyddaf fi’n mynd ar ei chyfyl.

Er y bydd criw o’m ffrindiau a’u plant yn mynd yno i garafanio, does dim pwynt i ni fynd efo hogyn awtistig a fuasai yno yn erbyn ei ewyllys ac yn mynd allan o’i ffordd i osgoi plant eraill, yn enwedig rfian ei fod o’n tynnu am ei bedair ar ddeg a’i hormonau yn ei wneud yn fwy mewnblyg. Ar un ystyr, mae hyn yn fendith, gan ei fod o wedi rhoi’r gorau i wneud pethau fel cythru am bobol y mae’n hoff ohonynt a chydio ynddynt (yr hyn a elwir yn ‘ymddygiad amhriodol’). Ond ar y llaw arall mae’n golygu nad ydi o eisiau mynd i ymweld â phobol a llefydd fel y byddai, a hynny’n gwneud ei fyd yn fwy cyfyng.

Elin Llwyd Morgan
Mwy

Cavendish – Gwrth-Arwr Arwrol

Dot Davies

 

Os y’ch chi’n gweld colli opera sebon yr etholiad cyffredinol, na phoener. Mae drama Cwpan Pêl-droed y Byd ar y gorwel. Tybed a fydd Wayne Bridge yn gwylio o’i wely haul yn LA ac yn gobeithio am ‘nil points’ i John Terry? A faint ohonom fydd yn esbonio i gymydog/cyfaill/cydweithiwr Saesneg pam nad yw ‘pawb’ yn cefnogi Lloegr yn absenoldeb tîm arall o Brydain. Fydden i’n dwlu dweud ’mod i wedi aeddfedu digon erbyn hyn i ddymuno’n dda i’r Saeson yn y gystadleuaeth. Ond dydw i ddim. Alla i ddim. Fydda i ddim.

Dot Davies
Mwy

Wrth Eu Llwythau…

Beca Brown

 

Aderyn prin iawn yw’r ddrama sy’n medru gwneud y fath sôn amdani mewn theatrau ac ar lawr gwlad fel ei gilydd, ac sy’n medru nythu mor dalog ym mlwch Statws cynifer o drigolion Facebook, gyda choedwigoedd o ebychnodau yn dynodi ei heffaith syfrdanol ar bawb sydd wedi ei gweld. Ond dyna yw camp Llwyth, drama newydd gan Dafydd James, a siaradodd nid yn unig â’r gymuned hoyw yng Nghymru, ond ag unrhyw un sydd wedi teimlo ei fod ‘wastad ar y tu fas’, neu sydd wedi ymdrechu i gadw troed mewn sawl gwersyll ar yr un pryd, heb grampio neu fynd dîn dros ben.

Beca Brown
Mwy

Llywodraeth Lloegr a Diwedd Prydeindod

Richard Wyn Jones

Mae canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol yn tanlinellu’r newid y mae datganoli wedi ei wneud i’r Deyrnas Gyfunol. Os yw’r gair Cyfunol yn briodol bellach...

 

 

Richard Wyn Jones
Mwy

Cwrs Y Byd - Hogiau Del

Vaughan Hughes

 

Dyma nhw ill dau yn camu i mewn i Rif 10 Downing Street. Tydyn nhw’n ddigon o ryfeddod, dydwch! Yn fain. Yn landeg. Yn hyderus. Y math o hyder mae arian yn ei brynu. Diau y bydd rhieni’r ddau yn credu bod y miloedd a gostiodd hi i addysgu David yn Eton a Nick yn Westminster wedi talu ar ei ganfed. Heb sôn am y mymryn o gymorth a oedd ei angen arnyn nhw i allu mwynhau i’r eithaf fwrlwm cymdeithasol Rhydychen a Chaergrawnt.

Vaughan Hughes
Mwy