Mehefin 2015 / Rhifyn 629

Cofio Harri Pritchard Jones: Llenor Gobaith a Chwmnïwr Diddan

Ar 10 Mawrth eleni bu farw Harri Pritchard Jones – llenor yr oedd Iwerddon yn
Gartref ysbrydol iddo, pwyllgorddyn diflino a oedd yn un o hoelion wyth yr Academi Gymreig, seiciatrydd a lladmerydd y ffydd Gatholig ar y cyfryngau Cymraeg. Un o’i gyfeillion agos sy’n talu teyrnged iddo.

Anodd dychmygu neb mwy rhadlon na Harri. Hoffai bobl, hoffai ymddiddan, hoffai hwyl. Roedd aelwyd Harri a Lenna yn Heol Wingfield yn ystrydebol o groesawgar, y prydiau gan amlaf wedi’u paratoi gan y ddau, y gwin yn llifo a’r cwmni’n gyffrous o amrywiol. Ac yr oedd yn ddyn teulu, yn ymfalchïo yn llwyddiant ei blant Guto a Nia ac Illtud, ac yn ei wyrion. Optimist oedd Harri, a chymodwr.

Daniel Huws
Mwy
Ffotograffiaeth

Portreadwr Rhyfel

Mae arddangosfa o waith PHILIP JONES GRIFFITHS ar fin agor yn y Llyfrgell Genedlaethol a hynny’n amserol iawn, a hithau’n ddeugain mlynedd ers diwedd rhyfel Fiet-nam, y rhyfel a ddarluniwyd gan y ffotograffydd mewn modd mor gofiadwy a dirdynnol. Yma mae cynhyrchydd teledu sy’n ymddiddori yn ei waith yn crynhoi ei yrfa a’i bwysigrwydd fel un o ffotonewyddiadurwyr gorau’r 20g.
‘Does neb ers dyddiau Goya wedi llwyddo i bortreadu rhyfel fel y gwnaeth Philip Jones Griffiths.’
Dyna deyrnged Henri Cartier-Bresson, un o ffotograffwyr mwyaf dylanwadol yr 20g., ac un o sefydlwyr asiantaeth Magnum, i waith y ffotograffydd o Ruddlan. Mae rhai o luniau Philip o ryfel Fiet-nam ymysg delweddau mwyaf eiconig yr 20g. wedi eu serio ar gof llawer.

Emyr Gruffudd
Mwy
Celf

Ar Drywydd yr Hugan Fach Goch

Artist o Sir Fynwy, Helen Sear, sy’n cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis eleni ac mae gan goed ffawydd ei chynefin le canolog yn ei harddangosfa. Yn ôl ein hadolygydd, mae ei gwaith hi a gwaith artistiaid eraill o Gymru yn creu argraff yn yr ŵyl gelf ryngwladol – er mai ar y cyrion y mae dod o hyd iddo.
Daw teitl arddangosfa Helen Sear, ...the rest is smoke, o ddarlun gan yr arlunydd Eidalaidd o gyfnod y Dadeni, Andrea Mantegna. Cyniga ei bortread o aberth San Sebastian fyfyrdod ar fyrder einioes, ac roedd ei weld ym Mhalas Aur Fenis yn sbardun i’w gwaith newydd. 
Mae’r artist amlgyfrwng o Raglan, a chyd-enillydd y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011, yn byw yng Nghymru ers 1984, ac yn cynnwys cefn gwlad Cymru yn gyson yn ei gwaith.

Lowri Haf Cooke
Mwy

Cymru ac Etholiad Cyffredinol 2015: Gwleidyddiaeth y Merddwr

Mae’r awdur yn cyfeirio at ‘wleidyddiaeth diriogaethol’ fel nodwedd amlwg yng nghanlyniadau’r etholiad ar 7 Mai – yn Lloegr a’r Alban. Ond ddim yn agos i’r un graddau yng Nghymru...
Wel, i mi gael achub fy ngham fy hun, roeddwn i bron yn gywir!
Yn rhifyn Mai mi fentrais ddarogan dau beth am etholiad a oedd – bryd hynny – yn parhau heb ei chynnal. Yn gyntaf, awgrymais y byddai ’na ryw ddigwyddiad nas rhagwelwyd cyn diwrnod y bleidlais a allai’n hawdd effeithio ar ein dealltwriaeth o arwyddocâd yr ornest, neu hyd yn oed ei weddnewid. Petawn i wedi dweud ‘cyn i’r pleidleisiau gael eu cyfrif’, fe fyddwn i bellach yn teimlo fy mod i’n dipyn o giamstar ar y busnes proffwydo ’ma!

Richard Wyn Jones
Mwy

Croeso Cymreig – Ond Anghofiwch yr Iaith

Dywedodd cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru yn ddiweddar fod y Gymraeg ‘weithiau’n mynd yn y ffordd’ pan fydd ymwelwyr yn ymweld â lleoedd ac atyniadau twristaidd gydag enwau Cymraeg. Dyma ymateb awdur sydd hefyd yn digwydd bod yn gyfarwyddwr gwesty adnabyddus.
Rhyfedd ac ofnadwy ydi’r datganiadau sy’n deillio o enau ac ysgrifbinnau ein hybarch arweinwyr seneddol yn y Blaid Dorïaidd yn ddiweddar am wadu inni ein Hawliau Dynol ac am wahardd llyfrau i Garcharorion rhag ofn iddynt ddysgu sgiliau newydd. Ac yn awr wele un o hoelion wyth twristiaeth yng Nghymru yn rhybuddio am beryglon arddel Cymreictod yn y diwydiant croeso.
Nid rhybudd gwag mohono. Mae’n resyn o beth fod yn rhaid arddel fersiynau Cymraeg o rai enwau pan mae gennych ddewis o enw Seisnig ar y lle, enwau tlws i’r glust ym mharabl plant bychain megis Pen Tree Halkyn yn lle’r erchyll Pentref Helygain...

Robin Llywelyn
Mwy
Materion y mis

Dau Genedlaetholdeb

Un peth mae etholiad San Steffan yn ei brofi’n ddigamsyniol ydi na fyddai annibyniaeth i Gymru wedi dilyn ar sodlau annibyniaeth i’r Alban.
Rhan o fethiant Plaid Cymru yw fod cenedlaetholdeb Cymreig wedi mynd yn wan fel ideoleg. Er mor ddymunol yw slogan fel ‘cenedlaetholdeb sifig’ mae’n rhaid gofyn beth yw ei ystyr ar lawr gwlad. Yr awgrym yw nad oes lle canolog i bethau fel ‘yr iaith’, ‘cymunedau Cymraeg’, ‘hunaniaeth Gymreig’, dosbarth cymdeithasol hyd yn oed (pan fo hynny’n golygu ‘y Cymry’ fel y gwna’n aml), yn y frwydr dros ryddid cenedlaethol.

Simon Brooks
Mwy